Aeth ein haelodau Cangen Caerffili ar daith i Gaerwrangon am benwythnos o gerddoriaeth!
28-Mehefin-2022
Aeth ein tiwtor Bob Young gyda’n haelodau Cangen Caerffili i Gaerwrangon am benwythnos o gerddoriaeth. . .
Mae Jayne Murphy, ein Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm am rannu adborth am y daith gyda ni. Dywed Jayne, “Pan mae Bob Young yn dysgu ei ddosbarthiadau Gwerthfawrogi Cerddoriaeth, mae fel arfer yn mynd i Oakdale, Ystrad Mynach neu Gaerffili. Y tro hwn aeth i ddinas Gaerwrangon, er mwyn arwain cwrs preswyl penwythnos ar fywyd cynnar Edward Elgar. Ymunodd dau ddeg saith o ddysgwyr ar y daith gydag ef.
Mae Caerwrangon yn ddinas hynod ddiddorol i’w harchwilio, gyda llawer o adeiladau yn dyst i anturiaethau hanesyddol y gorffennol. Ffocyswyd ar 42 mlynedd gyntaf bywyd Elgar, lle bu’n amlwg fel cerddor lleol blaenllaw cyn i weddill y byd gydnabod ei dalent, a’i ddenu ymaith. Roedd taith gerdded o amgylch y ddinas i bawb a oedd yn ddigon heini brynhawn Gwener, gan archwilio’r lleoedd oedd yn golygu cymaint i Elgar, ac yn agor y map i’r rhai oedd yn newydd i’r ddinas.
Roedd Gwesty’r Fownes, a leolir o fewn pellter cerdded hawdd i ganol y ddinas, wedi ein croesawu’n gynnes. Roedd ystafelloedd cyfforddus, brecwast bwffe swmpus a swper nos tri chwrs ynghyd ar staff cyfeillgar a chymwynasgar wedi gwneud ein harhosiad yn brofiad hapus. (Roedd y costau rhesymol iawn o gymorth hefyd!). Roedd ein hystafell fwyta breifat yn rhoi digon o gyfle i’r rhai a fynychodd ddod i adnabod ei gilydd dros brydau bwyd, ac roedd ein hystafell gyfarfod ar gyfer y penwythnos yn caniatáu i ni ymgynnull am sesiynau wedi swper, gan gynnwys Noson Lawen, lle’r oedd croeso i bawb gyfrannu, er nad oedd rheidrwydd, i adloniant y noson.
Cafodd pwyslais dysgu’r penwythnos ei ymgorffori mewn pedair sesiwn, wedi’u trefnu’n amserol er mwyn caniatáu digon o amser rhydd i ddysgwyr grwydro’r ddinas. Yn dwyn y teitlau Childhood Adventures, Experiments in Music, Marriage, a The Creation of an Enigma, roedd y sesiynau’n olrhain datblygiad Elgar, gyda llawer o enghreifftiau o’r gerddoriaeth a ysgrifennodd ymhob cam.
Oedd y cyfan werth yr ymdrech? Pleidleisiodd wyth ar hugain yn gadarnhaol. Roeddynt yn gynrychiolwyr o holl ddosbarthiadau rheolaidd Bob gyda phobl ychwanegol wedi ymuno hefyd. Roeddynt i gyd yn cytuno eu bod wedi’u goleuo a chael profiad cyfoethog. Mae’r dyddiad wedi’i drefnu ar gyfer ail gwrs preswyl y flwyddyn nesaf, ac mae lle hefyd i fwy o bobl ymuno gyda ni.”
Mae ein ‘Canghennau’ yn disgrifio grŵp o ddysgwyr sy’n dilyn eu diddordebau dysgu dewisol eu hunain; mae pwyllgor hunan-reoledig yn arwain y grŵp, lle mae’r aelodau yn cael cyfle i ymarfer democratiaeth a datblygu sgiliau ar gyfer cyfranogiad effeithiol yn y gymdeithas ehangach.
Mae’r gangen yn cael ei chydnabod gennym ac mae’n gysylltiedig gyda ni (Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales), ac rydym yn paratoi adnoddau a chefnogi anghenion dysgu gan gynnwys dod o hyd i diwtoriaid ar gyfer darpariaeth y gangen; rydym hefyd yn darparu rhywfaint o gymorth ariannol.
Rydym yn unigryw yng Nghymru, gan fod ein dysgwyr yn cael eu cydnabod fel aelodau o’n sefydliad, ac os dymunant, maent yn gallu ffurfio Canghennau lleol.
I ddysgu mwy am ein Canghennau, cliciwch yma.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth