Aeth ein dysgwyr ESOL ar daith i Amgueddfa Abertawe!
12-Ebrill-2022Ar ddiwedd mis Mawrth aeth rhai o’n dysgwyr o’r cwrs cyflwyniad i sgiliau TG ar gyfer prosiect ESOL ac AMIF ar daith addysgol i Amgueddfa Abertawe i ddatblygu eu diddordeb a’u gwybodaeth am ddiwylliant a hanes Cymru.
Yn ystod yr ymweliad, cafodd ein dysgwyr gyfle i ddysgu sut roedd pobl yn byw yn Abertawe yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Buont yn edrych ar arteffactau gan drafod eu defnydd posibl a chael eglurhad wedyn sut y cawsant eu defnyddio. Fe ddefnyddiwyd Cyfrifiad 1851 i ddysgu’n fanwl sut roedd pobl Abertawe yn byw.
Dywed ein tiwtor Clare Jones, “Cafodd y dysgwyr llawer o hwyl. Roeddent yn siarad ac yn sgwrsio gyda’i gilydd gan fwynhau’r coffi di-dâl (o’r Amgueddfa) a chacennau (gan AMIF)! Maent i gyd eisiau mynd eto. Mae’r daith wedi helpu ein dysgwyr i integreiddio i’r diwylliant Cymreig ag Abertawe. Buom yn trafod fod popeth yn ddwyieithog ac am yr iaith Gymraeg! Cafodd ein dysgwyr gyfle i archwilio rhai offer digidol yn yr amgueddfa hefyd. Gan fy mod yn addysgu TG i’r dysgwyr, roedd hyn yn rhywbeth a oedd yn integreiddio’n dda iawn!”
Mae adborth ein dysgwyr yn cynnwys, Nasrin: “Mae’n dda gwybod am yr hanes a’r hyn a ddigwyddodd. Byddaf yn dysgu mwy o wybodaeth gyffredinol”.
Salma: “Fe allwn ddysgu cymaint o bethau. Roedd yn brofiad da iawn.”
Sughra: “Fe wnaeth y daflen waith ein helpu i gofio. Byddaf yn dod â fy mhlant.”
Mae’r holl ddysgwyr yn edrych ymlaen at drip arall yn nhymor yr haf ac archwilio’r amgueddfa ymhellach!
Rydym yn falch o glywed bod y teithiau hyn yn helpu ein dysgwyr ac yn edrych ymlaen at glywed beth fyddant yn ei wneud nesaf!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau o’r daith ar ein tudalen Facebook!
I gael gwybod mwy am ein cyrsiau Dysgu Teuluol ESOL a chyrsiau ESOL eraill, cliciwch yma.
Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Gronfa Integreiddio Ceiswyr Lloches a Mudo’r Undeb Ewropeaidd. Yn sicrhau fod rheoli llifoedd mudo yn fwy effeithlon ledled yr Undeb Ewropeaidd.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth