Addysgu er mwyn Dileu: Adeiladu Dyfodol sy’n Rhydd o Drais
25-Tachwedd-2024Mae Tachwedd 25ain yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn Erbyn Menywod, sy’n ein hatgoffa o’r heriau treiddiol a systemig byd-eang mae menywod yn eu hwynebu. I filiynau o fenywod a merched, mae trais a gormes yn rhan annatod o wadu hawliau sylfaenol, gan gynnwys mynediad i addysg. Wrth i ni ymuno gyda’r gymuned ryngwladol i godi ymwybyddiaeth a galw am newid, rydym yn Addysg Oedolion Cymru yn ailddatgan ein hymrwymiad i feithrin cydraddoldeb, grymuso a chyfleoedd drwy addysg.
Nid gweithred gorfforol yn unig yw trais yn erbyn menywod; mae’n fater cymdeithasol sy’n ffynnu ar anghydbwysedd grym ac anghydraddoldebau sydd wedi eu gwreiddio’n ddwfn. Mae addysg yn allweddol i ddatgymalu’r rhwystrau hyn. Mae’n rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i fenywod fynnu eu hawliau, herio gwahaniaethu, a thorri’n rhydd o gylchoedd camdriniaeth. Eto i gyd, i lawer o fenywod, mae’r cyfle i ddysgu yn parhau i fod ymhell o’u cyrraedd oherwydd anghydraddoldebau systemig, normau diwylliannol ac ofnau o ddial.
Mae addysg yn fwy nag offeryn ar gyfer grymuso unigolion – mae’n gatalydd ar gyfer trawsnewid cymdeithasol. Mae astudiaethau’n dangos yn gyson bod menywod addysgedig yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau, sicrhau gwell bywoliaeth, ac eiriol dros les eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae addysg hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth newid agweddau cymdeithasol, chwalu stereoteipiau, a hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd.
Yn Addysg Oedolion Cymru, credwn y dylai dysgu fod yn hygyrch i bawb, waeth beth fo’u hoedran, cefndir neu amgylchiadau. Nod ein rhaglenni yw darparu amgylchedd diogel a chynhwysol lle gall menywod archwilio eu potensial ac adennill eu llais. O gyrsiau galwedigaethol sy’n agor drysau i gyflogaeth, i weithdai cymunedol sy’n meithrin hyder a gwytnwch, ymdrechwn i greu llwybrau er mwyn i fenywod ffynnu.
Mae’r frwydr i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben yn gofyn am yr angen i gyd-weithredu. Mae’n mynnu ein bod yn mynd i’r afael gydag achosion sylfaenol o anghydraddoldeb a chreu systemau sy’n amddiffyn, yn grymuso ac yn ymgodi. Rhaid i lywodraethau, addysgwyr a chymunedau weithio law yn llaw i sicrhau fod gan bob menyw’r hawl i ddysgu heb ofni trais neu wahaniaethu.
Heddiw, gadewch i ni gofio’r holl fenywod a merched a ymdawelwyd gan drais ac ymrwymo i fwyhau eu lleisiau drwy addysg ac eiriolaeth. Drwy fuddsoddi mewn addysg, nid trawsnewid bywydau unigol yn unig rydym am ei wneud; rydym yn adeiladu byd lle mae cydraddoldeb yn realiti, ac nid yn freuddwyd bellennig.
Yn Addysg Oedolion Cymru, safwn gyda phawb sy’n gweithio’n ddiflino i ddileu trais yn erbyn menywod. Gyda’n gilydd, gallwn greu dyfodol lle mae addysg yn hawl gyffredinol ac yn rym pwerus dros gyfiawnder a chydraddoldeb.
Kathryn Robson
Prif Weithredwr, Addysg Oedolion Cymru
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth