Addysg Oedolion Cymru yn Cryfhau ei Ymrwymiad i Gynaliadwyedd drwy Osod Paneli Ynni Solar
25-Medi-2025Yn Addysg Oedolion Cymru (AOC), rydym un cam yn nes at gyflawni ein nodau cynaliadwyedd ac amgylcheddol yn dilyn gosod system ffotofoltaig solar newydd yn ein Swyddfa yn Iard y Cowper yng Nghaerdydd. Cymerodd y gwaith o osod y paneli le yn ystod haf 2025, ac fe’i hariannwyd gan Lywodraeth Cymru – gyda’r nod o leihau ein hôl troed carbon a lleihau costau rhedeg y swyddfa yn sylweddol, a thrwy hynny ganiatáu i fwy o adnoddau gael eu buddsoddi yn ôl yn ein rhaglenni addysgol.
Gosodwyd 93 o baneli solar gan gwmni Green Energy Solar. Mae’r paneli hyn yn galluogi’r swyddfa i gynhyrchu ei thrydan glân ei hun, a thrwy hynny leihau’r ddibyniaeth ar y grid am y cyflenwad ynni.
Mae’r system paneli solar newydd yn cynnig manteision uniongyrchol a hirdymor sy’n cyd-fynd gyda gwerthoedd craidd AOC, gan ddangos ein hymrwymiad i nodau sero net a chyfrifoldeb amgylcheddol. Y tu hwnt i’r arbedion ariannol hirdymor, mae’r prosiect yn darparu enghraifft weladwy o weithredu ar waith ar yr hinsawdd. Mae hyn yn atseinio gyda’n dysgwyr, cydweithwyr proffesiynol, a’r gymuned ehangach, fydd yn gweld fod AOC, fel sefydliad cenedlaethol, yn chwarae ei ran wrth ddod o hyd i atebion gwyrddach yn erbyn y cefndir o newid hinsawdd.
Dywedodd Dawn Rogers, Rheolwr Iechyd, Diogelwch, Amgylchedd ac Ystadau AOC:
“Mae buddsoddi mewn ynni solar yn cyd-fynd yn berffaith gyda’n cenhadaeth i gefnogi dysgu cymunedol a chynaliadwyedd. Roedd y gwaith gan Green Energy Solar yn ddiffwdan, ac roedd y tîm yn hynod o barchus o’n hamgylchedd gwaith. Mae’n wych gweld ein sefydliad yn elwa o ynni glân wrth ysbrydoli sgyrsiau ymhlith dysgwyr am gynaliadwyedd a gweithredu ar yr hinsawdd.”
Ychwanegodd John Bloomfield, Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd Green Energy Solar:
“Mae wedi bod yn fraint gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru ar y prosiect hwn. Mae eu gwerthoedd o amgylch cymuned, dysgu a chynaliadwyedd yn cyd-fynd mor agos gyda’n rhai ni. Bydd y gwaith gosod hwn yn darparu manteision amgylcheddol ac ariannol hirdymor ac yn cefnogi’r gwaith gwych maent yn ei wneud ledled Cymru.”
Drwy ddewis buddsoddi mewn ynni solar gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Addysg Oedolion Cymru yn parhau i arwain drwy esiampl mewn addysg a chyfrifoldebau amgylcheddol, gan ddangos ymrwymiad clir i ddyfodol gwyrddach. Fel sefydliad, rydym yn gweithio tuag at gyflawni Cymru Sero Net yn unol â pholisïau carbon Llywodraeth Cymru, ac rydym yn diolch i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth barhaus.





Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth