Addysg Oedolion Cymru yn croesawu Nicole Green wedi iddi gael ei hethol fel Dysgwr-Lywodraethwr Newydd | Addysg Oedolion Cymru

Addysg Oedolion Cymru yn croesawu Nicole Green wedi iddi gael ei hethol fel Dysgwr-Lywodraethwr Newydd

31-Awst-2026
Rhannu

Mae Addysg Oedolion Cymru (AOC) wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Nicole Green wedi’i hethol yn aelod newydd o’n Corff Llywodraethu.

Fe wnaeth yr etholiadau a gynhaliwyd ymhlith ein dysgwyr ym mis Mehefin ddenu mwy nag erioed o ymgeiswyr, a Nicole Green a gafodd y nifer uchaf o bleidleisiau yn yr etholiadau hynny, wedi ras agos iawn.

Mae’r etholiad llwyddiannus hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i feithrin cyfranogiad democrataidd a chreu cyfleoedd ystyrlon i ddysgwyr gyfrannu at gyfeiriad y sefydliad yn y dyfodol.

Ar ôl cwblhau sawl cwrs, gan gynnwys y cwrs Dysgu Cynghori mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Sant Giles, mae Nicole yn ymgymryd â chyfleoedd dysgu pellach, gan gynnwys cwrs cwnsela a allai arwain at NVQ ac yn y pen draw gefnogi ei dilyniant i lwybr gyrfa newydd ystyrlon.

Dywedodd Nicole ar ei rôl newydd ei hethol fel Llywodraethwr Dysgwyr:

“Rwy’n ymrwymo i gynorthwyo â gwaith Addysg Oedolion Cymru i gynnig cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel sy’n grymuso dysgwyr ledled Cymru i gyflawni eu huchelgeisiau a’u potensial llawn. Rwy’n edrych ymlaen at brofiad gwerth chweil a wnaiff gynnig cyfleoedd ar gyfer twf, dysgu a chydweithio.”

Ychwanegodd Nicola Dagg, Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc AOC ar benodiad Nicole:

“Estynnwn ein llongyfarchiadau i Nicole a’n diolch diffuant i’r holl ddysgwyr a gymerodd ran yn y broses etholiad, boed drwy sefyll fel ymgeiswyr neu drwy fwrw eu pleidleisiau. Mae eu hymgysylltiad yn dangos ymrwymiad cryf i gynrychiolaeth dysgwyr ac yn helpu i sicrhau bod lleisiau dysgwyr yn parhau i chwarae rhan bwysig yng ngwaith Corff Llywodraethu Addysg Oedolion Cymru.”

Mae Nicole yn ymuno â dwy arall sy’n Ddysgwyr-Lywodraethwyr, sef Jan Tiley ac Emily Carter, a gyda’i gilydd, hwy yw’r tair aelod o’n Cyngor sy’n cynrychioli buddiannau’r dysgwyr. Mae’r Cyngor a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn AOC yn edrych ymlaen at weithio gyda Nicole a derbyn ei mewnbwn gwerthfawr wrth i’r sefydliad symud ymlaen i’r flwyddyn academaidd newydd.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth