Addysg Oedolion Cymru yn Cefnogi Ailddefnyddio Creadigol gyda Rhodd o Gardbord i Re-create
19-Awst-2025
Ymwelodd ein Rheolwr Gwasanaethau Dysgwyr, Martyn Reed, gyda Re-create Caerdydd yn ddiweddar i ollwng rhodd o 15 bwrn o gardbord wedi’i bacio’n fflat, nad oedd ei angen mwyach ar AOC. Sefydlwyd Re-create dros 30 mlynedd yn ôl gyda’r unig nod o gadw cynhyrchion gwastraff glân allan o safleoedd tirlenwi a chreu canolfan adnoddau chwarae i blant, gan wasanaethu ysgolion yn Ne Cymru.
Dywedodd Martyn “Rwy’n cofio ymweld â Re-create ym 1990 pan oeddwn yn hyfforddi i fod yn athro Celf. Mae’n ogof Aladdin o drysorau yn aros i gael eu troi’n weithiau celf ddychmygus. Mae’n wych ein bod ni’n gallu eu cefnogi a gwneud ein rhan dros gynaliadwyedd”.
Nid dyma’r tro cyntaf i AOC gefnogi Re-create. Rhoddodd y gwaith adnewyddu diweddar yn Swyddfeydd Iard y Cowper gyfle arall i sicrhau bod deunydd ysgrifennu a dodrefn swyddfa diangen yn dod o hyd i gartref newydd. Wrth ymweld ar yr achlysur hwn, dywedwyd wrth Martyn y byddai ein rhodd o flychau yn fwyaf tebygol o gael ei throsglwyddo i elusen sy’n anfon cymorth i Wcráin. I’n hatgoffa y gallai’r hyn a allai ymddangos fel ystum bach o ailgylchu cael effaith llawer mwy.
www.re-create.co.uk/cymraeg.html
Yn anffodus, Re-create yw’r unig un o’i fath yng Nghymru, ond mae siopau sgrap wedi’u lleoli ar draws y ffin yn Lloegr. I’r rhai yng nghanolbarth Cymru mae canolfan debyg yn Church Stretton, SY6 6BN. Scrappies – Supporting Creative Arts and Children’s Education. Gellir gweld rhestr o siopau sgrap a geir ledled y DU yn y cyfeiriadur hwn: Reuseful.uk – Scrapstores Directory
Darllen Pellach:
Gwneud y tro a thrwsio – Ailgylchu Cymru www.walesrecycles.org.uk/cy/sut-i-ailgylchu/lleihau-ac-ailddefnyddio
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth