Addysg Oedolion Cymru ac Academi Ieuenctid Casnewydd yn Croesawu Natasha Asghar AS i weld Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid ar waith
16-Mawrth-2026
Fe wnaeth Natasha Asghar AS, Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru a Gweinidog Addysg yr Wrthblaid, ymweld â Hwb Ringland ddydd Llun, 2 Mawrth. Fe wnaeth yr ymweliad, a gynhaliwyd gan Addysg Oedolion Cymru (AOC) trwy bartneriaeth ag Academi Ieuenctid Casnewydd, gynnig cyfle i ymgysylltu’n uniongyrchol â dysgwyr sy’n cyfranogi ar hyn o bryd yn y cwrs Gwaith Ieuenctid Lefel 1.
Yn ystod yr ymweliad, fe wnaeth Natasha Asghar AS gwrdd â dysgwyr sy’n cael eu tiwtora gan Rob Burton, Tiwtor Gwaith Ieuenctid AOC. Mae’r cwrs yn cynnig sgiliau sylfaenol hanfodol ym maes gwaith ieuenctid i unigolion sy’n 16 oed neu’n hŷn, gan wella eu llwybrau gyrfa ym meysydd cymorth cymunedol ac addysg.
Roedd yr ymweliad yn gyfle i ddwyn sylw at y cydweithio hanfodol sy’n digwydd rhwng Addysg Oedolion Cymru ac Academi Ieuenctid Casnewydd, un o raglenni seiliedig ar waith Cyngor Dinas Casnewydd. Mae’r Academi yn cynorthwyo pobl 16–19 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd, gan gynnig llwybr iddynt i’w galluogi i ddatblygu’n broffesiynol a sicrhau twf personol.
Yn ogystal â chwrdd â’r myfyrwyr, fe wnaeth Natasha Asghar AS ymgymryd â thrafodaethau ag arweinwyr allweddol AOC ac Academi Ieuenctid Casnewydd ynghylch dyfodol hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru; Mark Baines, Dirprwy Brif Weithredwr – Cwricwlwm a Chyllid AOC, Rachel Burton, Rheolwr Gwaith Ieuenctid AOC, a Rhion Hollister, Dirprwy Reolwr Tîm Academi Ieuenctid Casnewydd
Cafodd Natasha Asghar AS gyfle i ymweld â chyfleusterau Hwb Ieuenctid Ringland i weld effaith y rhaglenni hyn â’i llygaid ei hun. Yn ystod yr ymweliad, cafodd yr ymwelwyr gynnig coffi y gwnaeth y dysgwyr ei bartoi a’i weini fel rhan o’u hyfforddiant gwaith barista, gan amlygu’r sgiliau ymarferol amrywiol sydd wedi’u hymgorffori yn y cwricwlwm.
Dywedodd Mark Baines, Dirprwy Brif Weithredwr – Cwricwlwm a Chyllid AOC:
“Roedd yn bleser cael croesawu Natasha i Ringland a dwyn sylw at gryfder y gwaith partneriaeth rhwng Addysg Oedolion Cymru ac Academi Ieuenctid Casnewydd. Mae’r hyn a welwn yma yn llawer amgenach na chymhwyster; mae’n llwybr ailymgysylltu. I lawer o’r bobl ifanc hyn, mae’r cwrs hwn yn gyfle i fagu hyder unwaith wto, ac mae’n cynnig cynnydd strwythuredig a llwybr pendant tuag at gyflogaeth, rhagor o hyfforddiant neu arweinyddiaeth gymunedol.”
“Yn Addysg Oedolion Cymru, rydym yn canolbwyntio bob amser ar greu llwybrau cynnydd ystyrlon sy’n ymateb i anghenion lleol. Mae gwaith ieuenctid yn rhan hanfodol o’r ecosystem honno. Drwy fuddsoddi mewn sgiliau galwedigaethol sylfaenol ynghyd â phrofiad ymarferol, rydym yn helpu i feithrin gallu mewn cymunedau ac yn cynorthwyo pobl ifanc i ddod yn ddelfrydau ymddwyn da yn yr ardaloedd ble maent yn byw.”
Mae’r cydweithredu ag Academi Ieuenctid Casnewydd yn amlygu’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd awdurdodau lleol a darparwyr addysg oedolion yn cydweithio i gyflawni canlyniadau cyffredin. Edrychwn ymlaen at barhau â’r gwaith hwn a chryfhau cyfleoedd i bobl ifanc ledled De-ddwyrain Cymru.
Ychwanegodd Rachel Burton, Rheolwr Gwaith Ieuenctid AOC:
“Roedd yn fraint cael bod yn rhan o ymweliad Natasha. Fe wnaeth y bobl ifanc sy’n cyfranogi yn y cwrs gwaith ieuenctid ddangos eu llyfrau gwaith i ni a thrafod y sgiliau gwaith ieuenctid y maent yn eu datblygu. Ym mis Mai, byddant ymhlith y bobl 16 oed hynny yng Nghymru a fydd yn pleidleisio am y tro cyntaf, ac roedd yn fuddiol iddynt gael cyfle i gwrdd ag Aelod o’r Senedd a chanfod beth wnaeth ei denu at ei gyrfa ym myd gwleidyddiaeth. Mae gwaith Academi Ieuenctid Casnewydd yn sicrhau effaith wirioneddol ar fywydau pobl ifanc Casnewydd, gan eu grymuso i wneud dewisiadau cadarnhaol yn eu bywyd. Diolch i chi, Rhion, ac i’ch staff a’r pobl ifanc a wnaeth ein croesawu yn gynnes.”
Hefyd, ychwanegodd Rhion Hollister, Dirprwy Reolwr Tîm Academi Ieuenctid Casnewydd:
“Roeddem yn falch o gael cyfle i amlygu ymroddiad ein dysgwyr ac ymrwymiad ein staff. Fe wnaeth yr ymweliad ein galluogi i ddangos beth yn union yw’r effaith y gall addysg ieuenctid o ansawdd uchel ei sicrhau mewn cymunedau megis Casnewydd. Roedd cael Natasha i ddod i siarad â’r dysgwyr a chynnig cipolwg ar fyd gwleidyddiaeth a sut y gallant fynd ati’n bersonol i lunio eu dyfodol eu hunain yyn brofiad grymus, ac rydym yn ddiolchgar am yr amser a neilltuwyd.”
“Mae addysg ôl-16 yn un o’r meysydd buddsoddi pwysicaf o ran dyfodol ein pobl ifanc.”
“Os ydym yn dymuno sicrhau gweithlu medrus, cymunedau cryfach, a chyfleoedd gwirioneddol gynhwysol i bob unigolyn ifanc, rhaid i fuddsoddiadau cynaliadwy mewn addysg ôl-16 fod yn flaenoriaeth genedlaethol. Mae’r gwaith sy’n digwydd yma yn Academi Ieuenctid Casnewydd yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan gaiff pobl ifanc eu cynorthwyo’n briodol.”
Dymuna Addysg Oedolion Cymru ac Academi Ieuenctid Casnewydd ddiolch yn ddiffuant i Natasha Asghar AS am ei hamser ac am barhau i gefnogi datblygiad ieuenctid yng Nghasnewydd.









📸Tracey Paddison
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth