☕ Bore Coffi Ar-lein: Cyflwyniad i Muscular Dystrophy UK (Dystroffi’r Cyhyrau)
Dewch i ymuno gyda ni yn ein bore coffi ar-lein i ddysgu mwy am Muscular Dystrophy UK, sef elusen blaenllaw yn y DU sy’n canolbwyntio ar ariannu ymchwil i atal, trin a rheoli Dystroffi’r Cyhyrau.
Bydd Jacqueline a Suzanne o Muscular Dystrophy UK yn cyflwyno sesiwn addysgiadol a diddorol sy’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o gyflyrau gwanhau a gwastraffu cyhyrau.
Bydd y sgwrs yn cyflwyno gwaith yr elusen ac yn egluro’r gefnogaeth ymarferol, emosiynol ac eiriolaeth sydd ar gael trwy Muscular Dystrophy UK yn dilyn diagnosis.
Bydd y sesiwn hefyd yn darparu gwybodaeth am sut gall pobl gael mynediad at gefnogaeth, gofyn cwestiynau, a chysylltu gyda gwasanaethau lleol. Croeso i bawb. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol
💻 Pryd: Dydd Gwener 22ain Mai 2026 o 10.00 a.m. hyd 11.00 p.m.
📍 Ble: Ar-lein – Croeso i bawb ymuno gyda ni!
Dewch a phaned o goffi, a’ch cwestiynau, ac ymunwch gyda ni am sesiwn ysbrydoledig ac addysgiadol!
