Ydych chi’n chwilio am gwrs ESOL?
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf a hoffech chi ddysgu neu wella'ch sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu, yna gallai cwrs SSIE (ESOL) fod yn addas i chi.
Rydym yn darparu dosbarthiadau SSIE (ESOL) achrededig yn eich cymuned leol mewn amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol.
Sgiliau Hanfodol ac ESOL
Gall sgiliau Saesneg a rhifedd achosi rhwystrau enfawr i gyflogaeth a gallant achosi anawsterau gartref ac yn y gwaith. Os ydych yn siaradwr Saesneg cynhenid neu'n newydd i'r iaith, gall ein cyrsiau ESOL a sgiliau Sylfaenol helpu i ddatblygu'ch rhifedd a'ch llythrennedd gan eich arfogi gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnoch yn eich bywyd.
Mae'r cyrsiau'n cynnwys:
- ESOL
- Sgiliau Hanfodol
- Yn barod ar gyfer Mathemateg
- Sgiliau Sylfaenol
- Sgiliau am Oes
Gweld yr holl gyrsiau Sgiliau Hanfodol ac ESOL
Cyrsiau hyblyg Mathemateg a Saesneg
Ymunwch â ni ar y cam cyntaf i gymhwyster Lefel 2 sy’n cael ei dderbyn gan y mwyafrif helaeth o golegau a phrifysgolion yng Nghymru fel cymhwyster cyfwerth â gradd A-C TGAU mewn Mathemateg NEU Iaith Saesneg.
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar yr ystod eang o ddarllen, ysgrifennu a chyfathrebu llafar NEU ar yr ystod eang o sgiliau rhifedd sydd eu hangen i gyflawni'r cymhwyster.
Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif Lefel 2 a/neu Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu Lefel 2.
- Taflen Wybodaeth Cwrs Sgiliau Hanfodol Hyblyg (PDF, 388 KB)
- Llawlyfr Sgiliau Hanfodol Cymru (PDF, 409 KB)
Cysylltiadau Allweddol
Am ragor o wybodaeth ffoniwch 03300 580845 / 02920 382431 a holwch am y rhaglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg neu i siarad â Sian Williams.
Sian Williams – Hwylusydd Rhaglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg Sian.Williams@adultlearning.wales
Sarah O’Connell Jones – Rheolwr Rhanbarthol Gogledd Cymru gyda chyfrifoldeb am y Rhaglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg Sarah.O'ConnellJones@adultlearning.wales
Neu ewch i broffil y cwrs a chofrestru ar-lein. Cliciwch yma.
Sgiliau iaith
Mae’r cwrs ESOL yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau
iaith gan eich galluogi i gael mynediad at wasanaethau lleol,
cymryd rhan ym mywyd dyddiol Prydain a’ch paratoi ar gyfer
cyflogaeth neu addysg bellach.
Cysylltwch â ni heddiw ar
02922746657 a sgwrsiwch gyda
Saffa Bellis, Cydlynydd ESOL Cenedlaethol, i ddarganfod mwy!
Cyrsiau ESOL Reach
Os hoffech chi ymuno ag unrhyw un o'n dosbarthiadau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe neu Wrecsam, mae angen i chi gwblhau asesiad cychwynnol mewn Hwb REACH+.
Ariennir prosiect Integreiddio Ail-gychwyn REACH gan Lywodraeth Cymru ac mae yno i wasanaethu pawb yng Nghymru sydd eisiau dysgu SSIE. (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill).
Mae Hybiau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam Mae canolfannau REACH+ yn darparu un pwynt cyswllt canolog i unrhyw un sy'n dymuno cyrchu SSIE yn y dinasoedd hyn. Rydym yn asesu pob person ac yn cyfeirio at y cwrs cywir ac yn cefnogi mor gyflym â hawdd â phosibl.
Cysylltwch ag aelod o'n tîm, a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi ar sut i archebu asesiad yn un o'r Hybiau hyn:
-
Ar gyfer Caerdydd, cysylltwch â:
AOC Swyddfa Caerdydd – esolcardiff@addysgoedolion.cymru
Alison Ghrairi – Alison.Ghrairi@addysgoedolion.cymru
Galiya Idrisova – Galiya.Idrisova@addysgoedolion.cymru -
Ar gyfer Casnewydd, cysylltwch â:
Louise Gilmore – Louise.Gilmore@addysgoedolion.cymru -
Ar gyfer Abertawe, cysylltwch â:
Samantha Al-khanchi - Samantha.Al-khanchi@addysgoedolion.cymru -
Ar gyfer Wrecsam, cysylltwch â:
Sarah O'Connell Jones - sarah.o'connelljones@adultlearning.wales -
Am Ymholiadau Cenedlaethol, cysylltwch gyda:
Saffa Bellis – Saffa.Bellis@addysgoedolion.cymru -
Os ydych yn ddysgwr yn Wrecsam neu yng Ngogledd Cymru sydd gyda diddordeb mewn darpariaeth Saesneg fel Ail Iaith (ESOL) ar-lein, cysylltwch â:
Cecilia Forsythe - cecilia.forsythe@adultlearning.wales -
Os ydych yn bartner fyddai’n hoffi trafod y ddarpariaeth wyneb yn wyneb ledled Gogledd Cymru, cysylltwch â:
Sarah O'Connell Jones - sarah.o'connelljones@adultlearning.wales -
Ar gyfer Powys, cysylltwch â:
Cecilia Forsythe - cecilia.forsythe@adultlearning.wales