Trosolwg
Mae’r cymhwyster dwy flynedd (420 awr) rhan-amser hwn yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymwyseddau i chi weithio fel cwnselydd therapiwtig mewn cyd-destun asiantaeth mewn lleoliadau gofal iechyd ac anfeddygol. Byddwch yn ennill dealltwriaeth gadarn o sut i ddatblygu a chynnal perthnasoedd cwnsela therapiwtig yn ogystal â datblygu hunan-ymwybyddiaeth, sy’n cynnwys herio’ch rhagfarnau, eich ofnau neu’ch materion eich hun o fewn y broses gwnsela. Byddwch yn ymarfer hunan-fyfyrio ac yn gweithio o fewn model o theori a sgiliau cwnsela.

Cynnwys
Mae’r cwrs yn cynnwys 7 uned orfodol fydd yn cael eu hasesu yn ystod y cwrs trwy gyfrwng portffolio, dyddlyfr hunan-fyfyriol, cyflwyniadau ysgrifenedig a llafar ac astudiaethau achos ac ymarfer sgiliau. Yn ogystal, mae hefyd yn ofynnol i ddysgwyr gwblhau lleoliad cwnsela 100 awr dan oruchwyliaeth sy’n cynnwys log lleoliad, lleiafswm o 10 awr o gwnsela personol.
Mae pob un o’r unedau yn orfodol:
Uned 1 – Gweithio’n foesegol, yn ddiogel ac yn broffesiynol fel cwnselydd
Uned 2 – Gweithio o fewn perthynas gwnsela
Uned 3 – Gweithio gydag amrywiaeth cleientiaid mewn gwaith cwnsela
Uned 4 – Gweithio o fewn cwnsela gydag ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
Uned 5 – Gweithio gyda hunan-ymwybyddiaeth yn y broses gwnsela
Uned 6 – Gweithio o fewn fframwaith cydlynol o theori a sgiliau cwnsela
Uned 7 – Gweithio’n hunan-fyfyriol fel cwnselydd
Gofynion Mynediad
Bydd dysgwyr wedi cwblhau Tystysgrif Lefel 2 CPCAB mewn Sgiliau Cwnsela a Thystysgrif Lefel 3 CPCAB mewn Astudiaethau Cwnsela neu gyfwerth.
Ystyriaethau gofynion mynediad eraill.
Oedran – Rhaid i chi fod yn 19 oed o leiaf i gofrestru ar y cwrs hwn. Nid oes terfyn oedran uchaf.
Ymrwymiad – Rhaid i chi allu ymrwymo amser ac adnoddau i ymgymryd â’r elfennau cymhwysol ymarferol ac anelu at fynychu o leiaf 80% o’r sesiynau a addysgir.
Nid yw’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer rhai sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr o anhawster emosiynol difrifol a/neu drallod seicolegol difrifol gan fod y cwrs yn cynnwys elfennau trwy brofiad a fydd yn cynnwys rhywfaint o ddatgeliad personol a gweithgareddau datblygiadol personol cysylltiedig.
Cyfle i symud ymlaen
Mae cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn golygu y byddwch yn gallu darparu gwasanaeth cwnsela therapiwtig – i ddechrau o fewn cyd-destun fframwaith gwasanaeth asiantaeth ond yn ddiweddarach (gyda phrofiad a chefnogaeth gan y goruchwyliwr, neu drwy gwblhau PC-L5 neu’r hyn sy’n cyfateb iddo) gallwch symud ymlaen i ymarfer annibynnol.
Beth sydd ei angen arnaf?
Bydd angen i chi ddod â llyfr nodiadau/pen ysgrifennu ar gyfer cymryd nodiadau a ffeil bwa lifer ar gyfer storio taflenni, adroddiadau gan asiantaeth lleoliad/goruchwyliwr a’r gwaith asesedig rydych wedi’i gwblhau yn ystod y cwrs.
Cyswllt
I gael gwybod mwy, e-bostiwch counselling@adultlearning.wales