Cwnsela Lefel 3 | Addysg Oedolion Cymru

Trosolwg

Mae’r cwrs 90 awr hwn wedi’i fwriadu ar gyfer dysgwyr sydd eisoes wedi ennill cymhwyster lefel 2 cydnabyddedig mewn sgiliau cwnsela ac sydd eisiau:

  • cymryd y cam nesaf mewn hyfforddiant i ddod yn gwnselydd
  • dysgu mwy am theori cwnsela, moeseg ac iechyd meddwl
  • bod yn barod ar gyfer gwaith fel cwnselydd proffesiynol mewn lleoliad asiantaeth

Nid yw’r cymhwyster hwn yn arwain at gyflogaeth. Fe’i cynlluniwyd fel hyfforddiant cyn-ymarferydd ar gyfer cymwysterau cwnsela proffesiynol ond gallai hefyd arwain at gyflogaeth mewn maes cysylltiedig.

Cynnwys

Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i:

  • Paratoi i ddefnyddio fframwaith proffesiynol o fewn lleoliad cwnsela.
  • Datblygu dealltwriaeth o’r berthynas gwnsela.
  • Paratoi i ddefnyddio dealltwriaeth a sgiliau amrywiaeth mewn perthynas gwnsela.
  • Paratoi i reoli’r broses gwnsela o fewn contract sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
  • Datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth bersonol wrth baratoi ar gyfer gwaith sgiliau cwnsela.
  • Datblygu dealltwriaeth o’r broses gwnsela.
  • Deall goruchwyliaeth.

Mae pob uned yn orfodol:

Uned 1 – Fframwaith proffesiynol y cwnselydd

Uned 2 – Y berthynas gwnsela

Uned 3 – Amrywiaeth cleientiaid

Uned 4 – Y dull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr gwasanaeth

Uned 5 – Ymwybyddiaeth bersonol mewn cwnsela

Uned 6 – Cysyniadau a sgiliau cwnsela

Uned 7 – Goruchwyliaeth a hunan-fyfyrio

Gofynion Mynediad

Bydd angen i ddysgwyr fod naill ai wedi cwblhau cwrs Tystysgrif Lefel 2 CPCAB mewn Sgiliau Cwnsela neu unedau/cymwysterau cyfwerth o leiaf 75 Oriau Dysgu dan Arweiniad Ystyriaethau gofynion mynediad eraill.

Oedran – Rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf i gofrestru ar y cwrs. Nid oes terfyn oedran uchaf.

Ymrwymiad – Rhaid i chi allu ymrwymo amser ac adnoddau i ymgymryd gyda’r elfennau cymhwysol ymarferol ac anelu at fynychu o leiaf 80% o’r sesiynau a addysgir.

Nid yw’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer rhai sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr o anhawster emosiynol difrifol a/neu drallod seicolegol difrifol gan fod y cwrs yn cynnwys elfennau trwy brofiad a fydd yn cynnwys rhywfaint o ddatgeliad personol a gweithgareddau datblygiadol personol cysylltiedig.

Cyfle i symud ymlaen

Gallai’r cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth neu gynyddu cyflogadwyedd i’r rhai sydd â’r rôl o gefnogi eraill mewn e.e. gwaith iechyd a gofal cymdeithasol, addysgu a dysgu, eiriolaeth a chyfryngu, cymorth a gwaith prosiect, rolau cynorthwyol eraill. Mae’n darparu sgiliau ychwanegol i’r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth sy’n debygol o arwain at fwy o gyfleoedd ar gyfer dyrchafiad.

Gall dysgwyr hefyd wneud cais am le ar Ddiploma Lefel 4 CPCAB mewn Cwnsela Therapiwtig.

Beth sydd ei angen arnaf?

Bydd angen i chi ddod â llyfr nodiadau/pen ysgrifennu ar gyfer cymryd nodiadau a ffeil bwa lifer ar gyfer storio taflenni a’r gwaith rydych wedi’i gwblhau yn ystod y cwrs.

Cyswllt

I gael gwybod mwy, e-bostiwch counselling@adultlearning.wales