Trosolwg
Mae’r cymhwyster 90 awr yma wedi’i gynllunio i roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymwyseddau sylfaenol i ddysgwyr ddefnyddio sgiliau cwnsela yn foesegol ac yn ddiogel mewn amrywiaeth o gyd-destunau a rolau.
Mae’r cymhwyster ar gyfer rhai sy’n dechrau ar lefel gyntaf hyfforddiant fel cwnselydd proffesiynol, y rhai sydd am ddysgu sgiliau cwnsela mewn rolau proffesiynol neu gynorthwyol eraill, a’r rhai sydd am wella eu perthnasoedd proffesiynol a phersonol fel rhan o ddatblygiad personol.
Ni fydd y cymhwyster yn addysgu dysgwyr sut i fod yn gwnselydd, ond bydd yn eu helpu i benderfynu a ydynt am barhau i hyfforddi fel cwnsler ai peidio.

Cynnwys
Mae cwrs Tystysgrif Lefel 2 CPCAB mewn Sgiliau Cwnsela yn cynnwys 7 canlyniad dysgu gorfodol, ac mae gan bob un ohonynt feini prawf asesu cysylltiedig:
- Defnyddio sgiliau cwnsela yn foesegol ac yn ddiogel
- Sefydlu a chynnal rôl gynorthwyol
- Gweithio yn empathig fel cynorthwyydd
- Canolbwyntio ar anghenion a phryderon yr un sy’n cael cymorth
- Defnyddio hunanymwybyddiaeth yn y rôl gynorthwyol
- Defnyddio ystod o sgiliau cwnsela i hwyluso’r rhyngweithio cynorthwyol
- Defnyddio adborth a hunan fyfyrio i wella sgiliau cwnsela
Mae asesu mewnol yn seiliedig ar dystiolaeth ac fe gewch eich asesu’n barhaus gydol y cwrs trwy gyfrwng tasgau ymarferol, dyddlyfrau ysgrifenedig, cyflwyniad, aseiniad, adborth o asesiad cyfoedion ac asesiad parhaus. Unwaith y byddwch wedi cwblhau dwy ran o dair o’ch cwrs, disgwylir i chi gwblhau’r asesiad allanol. Ar gyfer yr asesiad allanol byddwch yn cwblhau papur adolygu adfyfyriol gartref dros gyfnod o wythnos.
Gofynion Mynediad
Nid oes angen hyfforddiant na phrofiad blaenorol.
Ystyriaethau gofynion mynediad eraill
Oedran – Rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf i gofrestru ar y cwrs. Nid oes terfyn oedran uchaf.
Ymrwymiad – Rhaid i chi allu ymrwymo amser ac adnoddau i ymgymryd gyda’r elfennau cymhwysol ymarferol ac anelu at fynychu o leiaf 80% o’r sesiynau a addysgir.
Nid yw’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer rhai sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr o anhawster emosiynol difrifol a/neu drallod seicolegol difrifol gan fod y cwrs yn cynnwys elfennau o brofiad a fydd
cynnwys rhywfaint o ddatgeliad personol a gweithgareddau datblygiadol personol cysylltiedig.
Cyfle i symud ymlaen
Gallai’r cymhwyster arwain at gyflogaeth neu gynyddu cyflogadwyedd i’r rhai sydd gyda rôl o gefnogi eraill mewn e.e. gwaith iechyd a gofal cymdeithasol, addysgu a dysgu, eiriolaeth a chyfryngdod, cefnogi a gwaith prosiect a rolau cynorthwyol eraill. Mae’n darparu sgiliau ychwanegol i’r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth, fydd yn debygol o arwain at fwy o gyfleoedd ar gyfer dyrchafiad.
Gall dysgwyr hefyd wneud cais am le ar Dystysgrif Lefel 3 CPCAB mewn Astudiaethau Cwnsela – CST-L3.
Beth sydd ei angen arnaf?
Bydd angen llyfr nodiadau/phen ysgrifennu ar gyfer cymryd nodiadau, a ffeil fawr ar gyfer storio taflenni a’r gwaith byddwch yn ei gwblhau yn ystod y cwrs.
Cyswllt
I gael gwybod mwy, e-bostiwch counselling@adultlearning.wales