Robert Burton
Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm
robert.burton@addysgoedolion.cymru
07711 247931 / 07841 117800
1986 – 2019 Dechreuais wirfoddoli yng Ngwaith Ieuenctid 1986 fel arweinydd iau a gweithio yn y sector wirfoddol yng Nghasnewydd a Chaerdydd, gyda phrosiectau cymunedol a ffydd hyd at 2019. Gweithiais mewn prosiectau mynediad agored gyda grwpiau bach o bobl ifanc, ac wedi hynny gweithio ar raddfa fawr mewn clybiau gyda 120+ o ieuenctid. Arweiniais a datblygu cyfleoedd cyfnewid i bobl ifanc i Iwerddon, Denmarc, Norwy a’r Iseldiroedd. Trefnu cyngherddau ieuenctid ar raddfa fawr a digwyddiadau hyd at 800. Trefnu nifer o brofiadau preswyl penwythnos ac wythnos – gwersylloedd ieuenctid i bobl ifanc.
2001 – 2016 Gweithiais gyda Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd fel Rheolwr Ardal yn gwasanaethu sawl ward ar draws y ddinas, yn gyfrifol am waith ieuenctid yn y gymuned, a datblygu prosiect Dinasyddiaeth ar gyfer y blynyddoedd pontio. Yn rheoli timau o weithwyr ieuenctid Cymunedau yn Gyntaf, ac yn gyfrifol am y ddarpariaeth Allgymorth, datgysylltiedig a symudol, yn ogystal â’r agenda Cyfranogiad. Enillais gymhwyster BELA ar gyfer gwobr Dug Caeredin, a goruchwylio 50+ o fyfyrwyr o brifysgolion fel goruchwyliwr gwaith maes.
2014 – Yn gweithio ar hyn o bryd i AOC fel tiwtor yn cyflwyno AYWPL2 a CYWPL3, a chyfleoedd hyfforddi datblygiad proffesiynol eraill ledled Cymru.
2016 – Gweithio fel CDC gyda Choleg YMCA Cymru i gychwyn, ac o 2017 gydag Addysg Oedolion Cymru. Yn datblygu perthynas dda gyda phartneriaid yn y sectorau statudol a gwirfoddol i arfogi a hyfforddi gweithwyr ieuenctid. Sefydlu cyfleoedd hyfforddi a chefnogi tiwtoriaid i gyflwyno cyrsiau achrededig. Cefnogi dysgwyr i gael mynediad at hyfforddiant ar-lein ac mewn person, a’u galluogi i gael profiad cadarnhaol.
2017 – Ar hyn o bryd yn cydlynu Rhwydwaith Cymorth Ieuenctid ‘Cefnogi’ ar gyfer gweithwyr ieuenctid ffydd yn y rhanbarth, gan rannu arfer da, polisi gwaith ieuenctid cyfredol, datblygu a rhannu adnoddau a syniadau. Hyfforddiant pwrpasol ar gyfer y sector gwirfoddol a chynnig opsiynau goruchwylio a mentora proffesiynol.
Cymwysterau proffesiynol – BA Anrhydedd mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, Coleg Prifysgol Cymru Casnewydd 2000-2004. / Gradd Meistr – Astudiaethau Ieuenctid a Chymunedol gyda ffocws ar oruchwyliaeth broffesiynol. Prifysgol Metropolitan Caerdydd 2012-2014.
Cymwysterau- Sicrwydd Ansawdd Mewnol ar Lefel 4 City & Guilds 2017 / Cymhwyster addysgu lefel 4 Tystysgrif Addysg a Hyfforddiant 2018 / Enillydd Gwobr Ysbrydoli! Tiwtor 2021.
Rwy’n angerddol am addysgu a pharatoi gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc i’w galluogi i wneud penderfyniadau safonol. Gwerthfawrogi’r unigolyn, eu cefnogi, herio a’u hannog wrth iddynt ddatblygu a buddsoddi ynddynt eu hunain ac mewn pobl ifanc.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni