Rachel Burton
Rheolwr Gwaith Ieuenctid
rachel.burton@addysgoedolion.cymru
07960 858835
“Dewch o hyd i swydd rydych yn mwynhau ei gwneud, ac ni fydd yn rhaid i chi fyth gweithio diwrnod yn eich bywyd.”
Mark Twain
Mae gweithio gyda phobl ifanc yn gymaint o fraint. Mae cerdded gyda rhywun drwy lencyndod, am gyfnod hir neu fyr, yn heriol ac yn ysbrydoledig. Mae’n fy nghadw ‘ar flaenau fy nhraed’, yn ymestyn ac yn datblygu fy sgiliau, yn gwneud i mi grio, chwerthin ond yn bennaf oll, yn rhoi gobaith i mi ar gyfer y dyfodol.
Rwyf wedi ymwneud gyda’r maes gwaith ieuenctid ers dros 30 mlynedd fel gweithiwr ieuenctid, hyfforddwr gwaith ieuenctid, swyddog hyfforddiant gwaith ieuenctid a nawr, fel rheolwr yr hyfforddiant i weithwyr ieuenctid yma yn Addysg Oedolion Cymru. Wrth wraidd fy ngwaith mae’r ffocws ar gefnogi pobl ifanc ac oedolion sy’n dysgu, er mwyn iddynt ffynnu a chyrraedd eu potensial. Gweld hyn yn digwydd yw’r wobr orau gall unrhyw swydd ei gynnig.
Dechreuais wirfoddoli gyda gwaith ieuenctid mewn prosiect ieuenctid cymunedol lleol yn y 1990au cynnar. Wrth wirfoddoli nid oeddwn yn cael fy nhalu – ond rhoi fy amser i helpu a chefnogi pobl ifanc. Nid yw’n wyddoniaeth roced: wrth roi ychydig o amser, gofal a sylw i rywun, maent yn dechrau ffynnu. Gyda phobl ifanc wrth y llyw, yn arwain ac yn cyfarwyddo’r prosiect, gwnaethom ddatblygu prosiect gwaith ieuenctid oedd yn cael ei redeg gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc. Roedd yn cynnwys cyfleoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar draws sbectrwm eang o weithgareddau dysgu anffurfiol.
Wrth wneud hyn cefais wybod am gyfleoedd ym maes addysg oedolion. Enillais Gymhwyster Addysgu Lefel 3 a gwneud Lefel 2 mewn gwaith ieuenctid. Roeddwn wrth fy modd yn dysgu fel oedolyn, yn enwedig mewn rhywbeth roeddwn yn angerddol amdano. Trwy fy hyfforddiant a’m profiad, cefais swydd gyflogedig mewn gwaith ieuenctid fel gweithiwr ieuenctid mewn ysgolion, ochr yn ochr gyda’r swydd wirfoddoli yn y prosiect gwaith ieuenctid lleol.
Yn ddiweddarach, cofrestrais ar raglen israddedig i astudio am radd mewn Gwaith Ieuenctid ac ennill fy nghymhwyster proffesiynol. Rhoddodd hyn ymdeimlad o bwrpas i mi ddychwelyd fel oedolyn i faes addysg a dilyn fy llwybr gyrfa dewisol. Nid oedd yn hawdd astudio gyda theulu ifanc a gweithio, ond oherwydd fy mod yn caru gwaith ieuenctid, roedd hyn yn gymorth i mi gadw ati a chyflawni.
Agorodd hyn gyfleoedd gyrfa eraill mewn gwaith ieuenctid: hyfforddi gweithwyr ieuenctid yn fy ngwasanaeth ieuenctid lleol, swydd swyddog hyfforddi yn y Prosiect Gwybodaeth Ieuenctid cenedlaethol CLIC, swydd uwch ddarlithydd yn hyfforddi gweithwyr cymorth ieuenctid ledled Cymru. Rwyf wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant Gwybodaeth Ieuenctid Ewropeaidd gydag ERYICA (Asiantaeth Ewropeaidd Gwybodaeth a Chwnsela Ieuenctid) a dod a’r hyfforddiant yn ôl i Gymru i’w gyflwyno i weithwyr ieuenctid. Rwyf bob amser yn dysgu ac yn chwilio am gyfleoedd hyfforddiant ac wedi cymhwyso fel: Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol ar gyfer Cymwysterau (IQA Lefel 4), Goruchwyliwr Gwaith Ieuenctid ar Lefel 7, a Rhagoriaeth ar Lefel 7 yn fy Nhystysgrif Ôl-raddedig Addysg mewn Dysgu Oedolion.
Ers 2016 rwyf wedi bod yn rheolwr ar y Tîm Gwaith Ieuenctid yn Addysg Oedolion Cymru. Rydym yn dîm ymroddedig a chymwys o weithwyr ieuenctid ac athrawon mewn addysg oedolion, ac yn hyfforddi dros 300 o oedolion sy’n dysgu ledled Cymru yn rheolaidd bob blwyddyn. Mae’r straeon am sut mae’r hyfforddiant hwn yn effeithio ar fywydau’r dysgwyr, a’r bobl ifanc maent yn gweithio gyda nhw, yn ysbrydoledig.
Fel rheolwr rwy’n cynrychioli’r tîm a’r sefydliad gyda phartneriaid a phrosiectau gwaith ieuenctid i ddylanwadu ar ddatblygiad a chyfeiriad gwaith ieuenctid yng Nghymru, ac rwy’n gwerthfawrogi medru gweithio mewn partneriaeth gyda:
- Chyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru
- Safonau Addysg a Hyfforddiant Cymru
- Cyngor Addysgwyr Cymru
- Grŵp Hyfforddi ac Aseswyr Cymru
- Grŵp Gweithredu ar gyfer y Gweithlu Llywodraeth Cymru.
Rwyf wrth fy modd yn cerdded a chysylltu gyda natur. Rwy’n ffotograffydd brwd ac wrth fy modd yn dal fy nheithiau cerdded, gyda fy nau gi ffyddlon, mewn blog teuluol. Rwy’n nofio llawer, yn beicio llai, ond rwyf bob amser yn darllen rhywbeth. Rwy’n perthyn i glwb ysgrifennu lleol ac yn mwynhau ysgrifennu’n greadigol. Gwrandawaf ar ystod eang o gerddoriaeth ac rwy’n chwarae piano ac allweddellau i fand lleol.
Pwy fyddai wedi meddwl y byddai gan wirfoddolwr a gweithiwr ieuenctid di-dâl daith o’r fath? Nid fi pryd hynny, ond nawr mae’n fy siapio, ynghyd ar hyn rydym yn gwneud yn ddyddiol fel tîm. Rydym yn angerddol am hyfforddi gweithwyr ieuenctid i fod y gorau y gallent fod, i fwynhau eu rolau er mwyn iddynt helpu’r bobl ifanc maent yn gweithio gyda nhw i ffynnu. Nawr mae honno’n swydd rwyf wrth fy modd yn ei gwneud.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni