Kristian Losztyn | Addysg Oedolion Cymru

Kristian Losztyn

Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm
 
kristian.losztyn@addysgoedolion.cymru

Dros yr ugain mlynedd diwethaf rwyf wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau ieuenctid a chymunedol. Roedd rhai yn swyddi cyflogedig, rhai yn wirfoddol, eraill mewn prifysgolion. Datblygais ddiddordeb brwd mewn gwaith ieuenctid, mentora, democratiaeth gyfranogol ac economeg a threfnu cymunedol. Mae pob un yn anelu at ddatblygu llais a thwf i unigolion a chymunedau.

Fel Swyddog Datblygu Cymunedol, Swyddog Cyllidebu Cyfranogol, Gweithiwr Ieuenctid, Trefnydd Cymunedol, Mentor/Hyfforddwr Bywyd, Gweithiwr Datblygu Gwirfoddolwyr, Hyfforddwr/Tiwtor a Darlithydd a Goruchwylydd; Rwyf wedi defnyddio dulliau sydd wedi eu profi i ddatblygu twf unigolion a grwpiau o fewn lleoliadau cymunedol amrywiol gyda llwyddiant mawr, lle mabwysiadwyd model Freirean (adeiladu gallu lleol), lle mae addysgeg feirniadol (dysgu myfyriol drwy ymarfer), yn ganolog i draddodiad Alinsky (trefnu cymunedol cydweithredol i wella lles pawb); galluogi pobl i ddatblygu eu cymunedau eu hunain, drwy arweinyddiaeth a dinasyddiaeth weithredol.

Trwy hyn, rwyf wedi datblygu gwybodaeth gynhwysfawr am sut i annog, arwain a chefnogi cleientiaid, gwirfoddolwyr, staff a phobl mewn cymunedau ehangach i ymdopi gyda’r hinsawdd economaidd-gymdeithasol sy’n newid yn barhaus a’r angen am ddatblygiad a thwf personol. O dan fy mentoriaeth a’m goruchwyliaeth, mae pobl yn datblygu ffurfiau perthynol a phroffesiynol o undod, gwell cyfathrebu a thwf personol ystyrlon; yn enwedig pobl ifanc sy’n agored i niwed, y digartref a’r rhai sydd gyda rhwystrau mawr o ran iechyd meddwl/corfforol, hyder ac ati y mae’n ofynnol iddynt gyflawni cyflawniadau personol cadarnhaol i ffurfio cynnydd ystyrlon dwfn, gan arwain at well ansawdd bywyd.

Rwyf wedi datblygu dealltwriaeth gadarn o sut i weithredu a chydlynu gwaith ieuenctid a chymunedol yn yr oes ddigidol; gweithredu’r rhan fwyaf o’r dulliau cyflwyno modern yn enwedig o ran y celfyddydau a diwylliant, tai, iechyd, cyflogaeth, camddefnyddio sylweddau, pwysau gan gyfoedion ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ati; gwella cyfathrebu, cyfranogiad a goresgyn rhwystrau amser a lleoedd yn ddramatig; megis byw mewn amgylchedd gwledig, cael anawsterau dysgu penodol a/neu amserlenni bywyd gwaith prysur. Rwyf wedi cefnogi diwylliannau yn y DU ar gyfer diwylliannau brodorol Cymraeg eu hiaith yng Nghymru a phobl fudol Bengali / Bangladesh a Zimbabwe / pobl o ddiwylliannau alltud yn Llundain drwy weithredoedd sy’n effeithio arnynt megis; gwneud penderfyniadau lleol, swyddi lleol i bobl leol, dod a dal plant mewn canolfan gadw i ben, diwylliant gangiau / strydoedd mwy diogel, undod gwleidyddol, gweithredu’r cyflog byw.

O ran gwaith ieuenctid y tu allan i glybiau ieuenctid cyffredinol, fy mhrif ran yw fel Mentor Arweiniol a Dirprwy Gydlynydd y Prosiect STARS ym Mhartneriaeth Parc Caia Cyf. a Mentor Ymgysylltu Ieuenctid ar gyfer Rhaglen ADTRAC yn CBSW. Rwyf wedi bod yn arwain / trefnu hyfforddiant pwrpasol a chyfleoedd profiad gwaith gyda Choleg Cambria, Prifysgol Glyndŵr a darparwyr hyfforddiant eraill, arweinwyr busnesau lleol mewn hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith ers sawl blwyddyn. Mae’r rhain wedi bod yn allweddol i lwyddiant cleientiaid ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) sy’n cyflawni gofynion mynediad i Addysg Bellach neu’n cael geirda personol neu arfarniadau er mwyn sicrhau Prentisiaethau neu gyflogaeth. Mae’r cyrsiau rwyf wedi’u trefnu yn cynnwys:- Cerbydau Modur, Adeiladu, Plastro, Paentio ac Addurno, Gwallt a Harddwch, Peirianneg Sain, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Diogelwch, Bwyd a Hylendid ac ati, i gyd wedi’u hachredu; lefelau mynediad neu lefelau 1, 2 a 3 gyda City and Guilds, AQA, OCN, QCF / RQF ac ati. Mae’r rôl hon yn cynnwys cynllunio dwys, cyllidebu, staffio, monitro o ansawdd uchel a gweithio mewn partneriaeth o fewn y tîm staff a gwirfoddolwyr hynod ysgogol, lle rwyf wedi bod yn weithiwr arweiniol.

Annog cleientiaid i ymgysylltu gyda sgiliau hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd yw fy mhrif gryfder, sydd wir yn cynyddu’r tebygolrwydd o sicrhau lle ar gwrs neu gael cynnig swydd. Anogaf gleientiaid i ennill cymaint o achrediad â phosibl, a chyfateb hyn gyda phrofiad gwaith ac ymweliadau eraill gyda diwydiant, ochr yn ochr gyda mentora gan weithwyr proffesiynol arbenigol mewn meysydd perthnasol, er mwyn ysbrydoli ac ysgogi.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn aelod allweddol o Grwpiau Gweithredu ar Dlodi Llawr Gwlad yn Sefydliad Joseph Roundtree sy’n cefnogi cyflwr blynyddol y genedl ‘Adroddiad Tlodi’r DU 2022’ i’r cyhoedd.

Rwyf wedi bod yn eiriolwr ac yn codi arian ar gyfer plant ag anhwylderau genetig hynod o brin gan weithio gyda chymdeithasau, teuluoedd ac unigolion yr effeithir arnynt, ochr yn ochr gyda llywodraethau, gweithwyr iechyd proffesiynol a chwmnïau cyffuriau er mwyn ymchwilio a chynnig triniaeth i’r plant hyn gyda syndromau sy’n cyfyngu ar fywyd, lle nad oes triniaeth yn bodoli neu maent yn rhy gostus.

Rwy’n mwynhau gweithgareddau awyr agored yng Ngogledd Cymru, darllen, gwrando ar gerddoriaeth / gwylio cerddoriaeth fyw, dysgu hanes, ymwneud gyda democratiaeth, hawliau dynol, gweithredu yn erbyn rhyfel / hiliaeth a gwaith amgylcheddol. Treulio amser gyda fy nheulu yw fy mhrif weithgaredd allan o’r gwaith. Cymerais ran yn fwyaf diweddar ar yr Argyfwng Hinsawdd: Dadansoddiad Dinesydd o wybodaeth ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus y Gogledd, Tîm Cenhadaeth Ddinesig Wrecsam – Prifysgol Glyndŵr, a newyddiaduraeth llawr gwlad The Other Front Line.