Mynediad i'ch Cyfrif Office 365 AOC a MS Teams
-
1. Agorwch eich porwr rhyngrwyd ac ewch i www.office.com (yn agor mewn tab newydd)
-
2. Cliciwch "Sign in"
-
3. Cliciwch yn y bocs a mewnbynnu eich cyfeiriad e-bost AOC a dderbynioch yn eich e-bost croeso
-
4. Cliciwch yn y blwch a mewnbynnu eich Cyfrinair AOC fel y dangosir yn eich e-bost croeso
-
5. Ar y mewngofnodi cyntaf bydd angen i chi newid eich cyfrinair
-
6. Rhowch eich cyfrinair presennol yna rhowch gyfrinair newydd yn y ddau flwch nesaf
Dylai cyfrineiriau fod o leiaf yn 12 nod ac yn cynnwys llythrennau mawr a bach a chymeriad arbennig (e.e. ! * # )
-
7. Cliciwch “Apps” ar yr ochr chwith i gael mynediad i'ch holl apiau fel Teams, Word, Excel, PowerPoint ac Outlook (E-byst)
Sut i gael mynediad at Teams er mwyn ymuno gyda'ch cyrsiau
-
8. Cliciwch yr Icon “Teams” o dan “Apps”
-
9. Click "Sign in"
-
10. Cliciwch ar eich cyfrif e-bost AOC
-
11. I gael mynediad i'ch dosbarthiadau bydd angen i chi glicio ar y teils sy'n arddangos eich cwrs i gael mynediad at adnoddau'r dosbarth a’r “chat” (y cyfleuster sgwrsio)
-
12. Gallwch ymuno gyda'ch cyfarfod o'r adran hon drwy glicio'r botwm “Join” yng nghornel dde uchaf tudalen y dosbarth unwaith y bydd y cyfarfod i fod i ddechrau (Fel arfer yn cael ei arddangos tua 5-15 munud cyn yr amser cychwyn) neu drwy glicio'r botwm ymuno o'r rhuban yn "chat”
-
13. Y ffordd arall o gael mynediad at gyfarfodydd eich dosbarth yw drwy fynd i'r tab calendr ar yr ochr chwith
-
14. I ymuno gyda'ch cyfarfod gallwch glicio ar y cyfarfod yn eich calendr
-
15. Cliciwch y botwm “Join”
-
16. Y tro cyntaf byddwch yn ymuno gyda chyfarfod ar Teams, gofynnir i chi ganiatáu mynediad i'ch Meicroffon a'ch Camera - mae hyn yn bwysig iawn er mwyn gallu cyfathrebu'n effeithiol yn y dosbarth.
Cliciwch "Allow" ar y naidlen.
-
17. Bydd y sgrin yma yn ymddangos lle byddwch yn gallu gweld eich hun os yw eich camera ymlaen a does ond angen i chi glicio "Join now" i fynd i mewn i'ch dosbarth
Llwytho i lawr Fersiwn Ap o'r Teams
-
18. Rydym yn argymell defnyddio fersiwn ap Teams ar gyfer ymarferoldeb llawn, ond nid yw hyn yn hanfodol i ymuno gyda'ch dosbarth
Cliciwch y 3 dot yn ochr dde uchaf eich sgrin, wrth ymyl y cylch gyda'ch llythrennau cyntaf
-
19. Cliciwch "Get the desktop app"
-
20. Bydd tab newydd yn agor fel y dangosir isod, Cliciwch "Download Microsoft Teams for Windows" a dilynwch y camau nesaf i lwytho Teams i lawr
Noder, unwaith y byddwch wedi llwytho Teams i lawr, bydd angen i chi fewngofnodi gyda'ch cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair AOC
Angen cymorth?
Os ydych yn profi unrhyw anawsterau wrth fynd trwy'r camau a amlinellir uchod, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni a byddwn yn eich cynorthwyo.
Yma i'ch helpu i ddysgu.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni