Cymorth i ddysgwyr sydd wedi cofrestru gydag Addysg Oedolion Cymru
Hunanatgyfeirio ar gyfer Cwnsela
Mae iechyd meddwl a lles ein dysgwyr yn bwysig iawn. Rydym
am eich helpu i gael mynediad at y cymorth sydd ei
angen arnoch pan fyddwch ei angen.
Os hoffech
atgyfeirio eich hun ar gyfer sgwrs gychwynnol gydag un o’n
cwnselwyr profiadol, cwblhewch y ffurflen atgyfeirio a
byddwn yn cychwyn y broses o’r fan hyn.
Ffurflen Cwnsela Hunanatgyfeirio (allanol)
Os ydych chi'n teimlo y gallech chi geisio lladd eich
hun, neu os ydych chi wedi niweidio'ch hun yn ddifrifol,
rydych chi angen help meddygol ar frys. Plîs:
• ffoniwch 999 am
ambiwlans
• ewch yn syth i'r Adran Damweiniau ac
Achosion Brys, os gallwch chi
• neu ffoniwch eich tîm
argyfwng lleol, os yw eu rhif gennych chi.
Os oes angen cefnogaeth arnoch mae yna nifer o linellau
cymorth Cenedlaethol lle mae pobl yn barod i wrando. .
.
• Y Samariaid - 116 123
• Llinell
Gymorth C.A.L.L. – 0800 132 737 neu
anfonwch neges destun “Help” i 81066
•
SANEline – 0300 304 7000
• Llinell
Gymorth CALM – 0800 58 58 58
•
Llinell Gymorth 24-awr
Refuge
– 0808 2000 247 Llinell Gymorth Genedlaethol Trais
yn y Cartref
• The Mix – 0808 808
4994 (Cymorth Hanfodol i rai dan 25 oed)
•
Papyrus – 0800 068 41 41 neges destun
07860 039967 (Cefnogaeth i rai dan 35 oed sy'n teimlo'n
hunanladdol)
A ydych chi’n gwybod am ein Cynllun Hunangyfeirio Cwnsela Dysgwyr?
Cyflwynwyd y cynllun Hunangyfeirio Cwnsela Dysgwyr ym Medi 2020, ac mae’n caniatáu i unrhyw un o’n dysgwyr geisio a chyrchu cymorth. Gall dysgwyr lenwi ffurflen hunangyfeirio cwnsela a gaiff ei chyflwyno a’i hadolygu gan ein haelodau staff hyfforddedig a phrofiadol, Tracy Fletcher a Gail Davies. Bydd Tracy neu Gail yn cysylltu â’n dysgwyr yn y lle cyntaf ar ôl derbyn cais. Byddant yn sefydlu pa gymorth a allai fod yn ofynnol ar gyfer ein dysgwyr, a lle bo hynny’n berthnasol, cyfeirio dysgwyr at y cymorth priodol; gallai hynny gynnwys eu cyfeirio i gael cwnsela.
Tracy Fletcher
Ymunais ag Addysg Oedolion Cymru fel Tiwtor yn 2015. Cyn hynny, roeddwn i wedi bod yn cyfuno tair swydd – Therapydd Iaith a Lleferydd, Cwnselydd a Thiwtor. Fe wnes i roi’r gorau i fod yn Therapydd Iaith a Lleferydd i ganolbwyntio ar gwnsela ac addysgu. Fel tiwtor, byddaf yn rhedeg cyrsiau cwnsela a chyrsiau datblygiad personol, e.e. cydnerthedd, lles emosiynol, a magu hyder. Ers cychwyn gweithio i’r sefydliad, rwyf wedi ennill cymhwyster IQA (Aseswr Ansawdd Mewnol), ac erbyn hyn, rwy’n addysgu ac yn asesu cyrsiau. Yn 2020, roeddwn i’n rhan o’r tîm a sefydlodd y gwasanaeth sgrinio cwnsela, rhywbeth yr wyf i’n falch iawn ohono. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i unrhyw ddysgwr sy’n gwneud un o gyrsiau Addysg Oedolion Cymru. Rwy’n credu’n angerddol mewn cwnsela a dylai fod ar gael i bawb yn fy marn i. Fy arwyddair yw “Byddwn yn mynd i’r gampfa i gadw ein hunain yn iach yn gorfforol a dylem ni fynd i sesiynau cwnsela i gadw ein hunain yn iach yn feddyliol!” Er budd fy lles fy hun, byddaf yn mwynhau darllen, crosio, beicio a threulio amser gyda’r teulu. Byddaf hefyd yn mwynhau mynd i wahanol lefydd yn ein fan gwersylla o’r enw “Olive”. Rwy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd, ac ar hyn o bryd, rwy’n ystyried fy mod yn un o ddysgwyr y Gymraeg. Rwy’n gwneud fy ngorau glas i geisio defnyddio iaith Cymru.
Gail Davies
Yn dilyn cefndir mewn Gwaith Cymdeithasol, yn 2005, dychwelais i addysg, a chwblheais radd B.A. (Anrhydedd) mewn Astudiaeth Cwnsela a’r Gymdeithas wedi’i dilyn gan fy nghymhwyster TAR yn 2009. Ymunais ag Addysg Oedolion Cymru (Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yn flaenorol) yn 2009 fel Tiwtor Addysg Gymuned, ac addysgais amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys yr Iaith Gymraeg/Hanes Cymru, Seicoleg, Cymdeithaseg, Cam-drin Domestig a Chrefftau. Dros y blynyddoedd, rwyf i wedi gweithio fel Tiwtor a Swyddog Datblygu Cymunedol ar amrywiaeth o brosiectau dan nawdd Addysg Oedolion Cymru (Cymdeithas Addysg y Gweithwyr). Rwy’n dal i weithio fel tiwtor yn y gymuned, ac yn Nhachwedd 2021, ymunais â thîm y cynllun hunangyfeirio cwnsela dysgwyr, ac fel rhan o’r gwaith hwnnw, rwy’n cynorthwyo i sgrinio cyfeiriadau a gwneud cyswllt cychwynnol â dysgwyr sy’n ceisio cymorth a chefnogaeth. Cefais fy ngeni yn Ystradgynlais a fy magu yng Nghwmtawe, ac rwy’n byw yn Nhredegar ers 25 mlynedd. Cymraeg yw fy mamiaith. Mae fy niddordebau yn cynnwys materion cyfoes, hanes Cymru, darllen, ymarfer myfyrdodau Ymwybyddiaeth Ofalgar a chrefftau.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni