Cyflwyno Cais am Gefnogaeth
Rydym bob amser yn ceisio gwneud popeth o fewn ein gallu i
gefnogi dysgwyr, felly os oes gennych gwestiwn yn ymwneud â'ch
cwrs,
cymwysterau neu dystysgrifau,
diogelu,
eich dysgu ar-lein neu
unrhyw beth arall gallwch gyflwyno cais am
gymorth i ni - a byddwn yn gwneud ein gorau glas i helpu.
Gallwch
hyd yn oed ddweud wrthym os ydym yn gwneud unrhyw beth o'i le
neu os ydych eisiau cwyno.
Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen gymorth, bydd ein tîm cymorth yn gweithredu ac yn ymateb cyn gynted ag y bo modd yn ystod oriau swyddfa arferol (cyn pen 3 diwrnod, 9.00am - 5.00pm, dydd Llun i ddydd Gwener).
Rydym yma i'ch helpu i ddysgu.
Croesawu'r Gymraeg
Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn dathlu’r Gymraeg ac yn cefnogi a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn bywyd beunyddiol.
O enw ein sefydliad, i’n cynnig rhagweithiol, rydym yn annog y Gymraeg ym mhob peth a wnawn ac yn ei chofleidio, ac yn ymateb i angen iaith fel elfen anhepgor wrth gynllunio a chyflwyno dysgu.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni