Weithiau, gall astudio achosi straen. Rydym yn dymuno sicrhau y bydd yn brofiad mor hwylus ag y bo modd i’n dysgwyr. Dyna pam rydym wedi cynnig rhai o’r dewisiadau cymorth isod gall eich helpu tra eich bod yn dysgu gyda ni.
Cyngor Astudio
Rydym am i chi gael profiad cadarnhaol a chael cymaint ag sy’n bosibl o’ch cwrs. Gallwch ddefnyddio sawl dull i dderbyn gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.
Yn AOC mae gennym Gydlynwyr Datblygu Cwricwlwm (CDCau) profiadol, a’u gwaith yw eich cynghori ar ba gyrsiau sydd ar gael yn eich ardal.
Yn ychwanegol, gall CDCau eich helpu i adnabod llwybr dilyniant addas trwy wahanol gyrsiau i’ch helpu i gyflawni eich nod. Os oes gennych gwestiwn sy’n ymwneud ag unrhyw gymorth gallech fod ei angen, er enghraifft gyda dysgu neu gyllid, ac nad yw’n ymwneud gyda darpariaeth y cwrs, yna efallai hoffech gysylltu gyda’r Gwasanaethau Dysgwyr am gymorth. Byddem yn falch o gael helpu neu eich cynorthwyo i gysylltu gyda rhywun sy’n medru cynnig ateb i chi.
Ffoniwch ni ar 03300 580 845
Anfon neges destun i 07715 904 304
Neu anfon e-bost i gwasanaethaudysgwyr@addysgoedolion.cymru
Ein Llawlyfr i Ddysgwyr
Mae’r Llawlyfr i Ddysgwyr yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol gall fod o gymorth pan fyddwch yn mynychu cwrs. Fodd bynnag, os na allwch ganfod y wybodaeth rydych yn chwilio amdano yn y llawlyfr, cofiwch gysylltu gyda ni.
Ffoniwch ni ar 03300 580 845
Anfon neges destun i 07715 904 304
Neu anfon e-bost i gwasanaethaudysgwyr@addysgoedolion.cymru
Mae copïau papur ar gael yn ein swyddfeydd rhanbarthol a thiwtor eich cwrs.
Cynllun Banc Data Cenedlaethol
Cymorth i ddysgwyr sydd wedi cofrestru gydag Addysg Oedolion Cymru
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydweithio gyda’r Good Things Foundation, sy’n goruchwylio’r cynllun Banc Data Cenedlaethol. Mae’r Banc Data Cenedlaethol yn darparu data am ddim i 500,000 o bobl, mewn partneriaeth gyda Virgin Media O2, Vodafone a Three.
Mae’r Banc Data Cenedlaethol y DU yn paratoi cysylltedd data rhyngrwyd symudol am ddim i bobl nad ydynt yn medru ei fforddio, a rheiny sydd hefyd yn profi yn aml anghydraddoldebau lluosog yn ein cymdeithas.
Y nod yw gwaredu’r rhwystrau a wynebir gan rheiny yn y DU, nad ydynt yn gallu fforddio i aros mewn cyswllt. Bydd y cynllun yn helpu pobl sydd wedi eu torri i ffwrdd rhag cysylltu gyda’u hanwyliaid, rhag mynychu cyfweliadau swyddi ar-lein, rhag dod o hyd i wybodaeth iechyd hanfodol neu wybodaeth arall ar-lein.
I dderbyn data drwy’r Banc Data Cenedlaethol rhaid i chi:
- Fod yn 18 oed neu drosodd
- AC mewn cartref incwm isel
Ac yn gymwys mewn un neu nifer o’r datganiadau canlynol:
- Heb fynediad neu fynediad annigonol i’r rhyngrwyd gartref
- A/NEU heb fynediad neu fynediad annigonol i’r rhyngrwyd pan i ffwrdd o gartref
- A/NEU yn methu fforddio’r contract misol presennol neu’r data atodol
Os ydych yn ddysgwr gydag Addysg Oedolion Cymru ac yn dymuno i ni roi data rhoddedig i chi, llenwch y ffurflen gofrestru fer hon.
Sylwch y gall data gael ei gyfyngu i gyflenwad 6 mis, yn seiliedig ar argaeledd a galw.
Urddas yn ystod Mislif
Cymorth i ddysgwyr sydd wedi cofrestru gydag Addysg Oedolion Cymru
Cyflwynwyd cynllun a gefnogir gan Lywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo urddas yn ystod mislif ac i fynd i’r afael â thlodi mislif.
Mae hyn yn golygu gall dysgwyr nawr cael nwyddau mislif am ddim.
I ofyn am becyn cynnyrch, cwblhewch y ffurflen hon a byddwn yn ei rhoi yn y post i chi.
*Argaeledd yn amodol ar barhad cyllid.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni