Lles Ariannol | Addysg Oedolion Cymru
Canllawiau i ddysgwyr sydd wedi cofrestru gydag Addysg Oedolion Cymru

Lles Ariannol

Costau byw

Mae’r argyfwng costau byw presennol yn achosi i lawer o bobl boeni am sut i gael dau ben llinyn ynghyd. I gefnogi lles ariannol mae yna adrannau amrywiol i wahanol adnoddau i gynnig gwybodaeth i chi yn ystod y cyfnod hwn o aflonyddwch ariannol yn y DU.

 

Cymorth mewn Argyfwng

 

Cymorth ar gyfer Costau’r Cartref

 

Cynyddu Incymau i’r Eithaf

  • Yma i Helpu
    Cefnogi pobl i gael y cymorth ariannol mae ganddynt hawl iddynt.
  • Cynlluniwr Cyllideb y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
  • Credyd Pensiwn
    O eleni bydd y Taliad Tanwydd Gaeaf yn gysylltiedig â derbyn budd-daliadau prawf modd penodol. Yn sgil hynny, i lawer o bobl hŷn yng Nghymru, Credyd Pensiwn fydd yr allwedd iddynt gael mynediad i’r hawl i Daliad Tanwydd Gaeaf. Dylai pobl sy’n dymuno siarad gyda chynghorydd ffonio 0800 702 2020, neu gallent siarad gyda chynghorydd ar-lein.
  • Undebau Credyd
    Maent yn cynnig cynilion a benthyciadau fforddiadwy i bobl yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ehangu eu benthyca i bobl sydd gyda hanes credyd gwael a fyddai fel arall yn cael gwrthod benthyciad ac sydd mewn perygl o gael eu gyrru i fenthyca gan fenthycwyr arian anghyfreithlon.

 

Cymorth gyda Chostau’r Diwrnod Ysgol

  • Prydau Ysgol am Ddim
    Dylai pobl siarad gyda’u hawdurdod lleol i gael gwybod mwy am sut i gael y cymorth hwn. Mae’n bwysig bod teuluoedd sy’n manteisio ar brydau ysgol am ddim ar gyfer disgyblion cynradd hefyd yn cofrestru eu bod yn gymwys, gan y bydd hyn yn arwain at gyllid y Grant Datblygu Disgyblion ychwanegol ar gyfer yr ysgol.
  • Grant Hanfodion Ysgolion
    Cymorth ar gyfer cost gwisgoedd ysgol a chit ysgol.
  • Lwfans Cynhaliaeth Addysg
    Helpu dysgwyr o deuluoedd incwm isel i aros mewn addysg a hyfforddiant gyda lwfans. Dylai pobl sy’n dymuno derbyn y cymorth hwn gysylltu gyda’u hawdurdod lleol.

 

Cymorth Arall

 

Money Saving Expert