Sbardunau gwrthdaro
Yng ngoleuni’r digwyddiadau presennol, rydym yn ymwybodol gall llawer o bobl gael eu heffeithio, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan y sefyllfa bresennol o wrthdaro, ac efallai ei fod yn achosi llawer iawn o bryder ac ansicrwydd i lawer ar hyn o bryd.
Os hoffech ddefnyddio ein gwasanaethau cymorth, dyma’r manylion:
Dysgwyr:
Gallwch hunangyfeirio i gael
gwasanaethau cwnsela yma:
Hunanatgyfeirio ar gyfer cwnsela
(Mae'r gwasanaeth hwn ar gael yn ystod y tymor yn unig.)
Os oes gennych argyfwng ac angen cefnogaeth:
Os ydych yn teimlo y gallech geisio lladd eich hun, neu os ydych wedi niweidio'ch hun yn ddifrifol, rydych angen meddygol ar frys. Plîs:
- ffoniwch 999 am ambiwlans
- ewch yn syth i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, os gallwch wneud hyn
- neu ffoniwch eich tîm argyfwng lleol, os yw eu rhif gennych
Rydym yn deall y gallai fod gan bobl safbwyntiau gwahanol am y sefyllfa. Mae gan y sefydliad safiad o beidio goddef unrhyw fath o fwlio, aflonyddu neu ymddygiad gwahaniaethol. O’r herwydd, hoffem atgoffa’n holl staff a’n dysgwyr i ddefnyddio iaith a naws barchus a phriodol wrth drafod y sefyllfa gydag eraill.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni