Canllawiau i ddysgwyr sydd wedi cofrestru gydag Addysg Oedolion Cymru
Eich cefnogi bob cam o'r ffordd
Rydym pob amser yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth, ond bydd adegau pan fydd angen arweiniad arbenigol. Os ydych yn ystyried bod gennych anabledd a/neu anhawster dysgu sy'n effeithio ar eich gallu i ddysgu neu gael mynediad at ddysgu, siaradwch â ni.
Gallwn eich cyfeirio at gael y cymorth arbenigol sydd ei angen arnoch wrth gymryd rhan yn unrhyw un o'n cyrsiau - byddwn yn gwneud ein gorau i helpu. Siaradwch â ni'n gyfrinachol a dywedwch wrthym am y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch: 03300 580 845 neu destun 07715 904304
Darpariaeth Dysgu Cyffredinol ac Ychwanegol
Rydym yn ymroddedig i ddarparu ystod lawn o addysg bellach a hyfforddiant sy’n hygyrch yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy ein darpariaeth ddysgu gyffredinol ac ychwanegol, ein nod yw sicrhau bod yr holl ddysgwyr sydd wedi cofrestru yn gallu gwneud cynnydd rhagorol o fewn y cyrsiau a gynigir.
Yma i'ch helpu i ddysgu.
Croesawu'r Gymraeg
Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn dathlu’r Gymraeg ac yn cefnogi a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn bywyd beunyddiol.
O enw ein sefydliad, i’n cynnig rhagweithiol, rydym yn annog y Gymraeg ym mhob peth a wnawn ac yn ei chofleidio, ac yn ymateb i angen iaith fel elfen anhepgor wrth gynllunio a chyflwyno dysgu.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni