Datganiad Addysg Oedolion Cymru am Fynediad at Asesiad Teg | Addysg Oedolion Cymru

Datganiad Addysg Oedolion Cymru am Fynediad at Asesiad Teg

Mae Addysg Oedolion Cymru wedi ymrwymo i greu amgylchedd dysgu sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth, yn hyrwyddo ecwiti, ac yn sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at asesiadau teg a diduedd. Mae ein Datganiad Mynediad at Asesiad Teg yn adlewyrchu’r ymrwymiad hwn ac yn amlinellu’r egwyddorion a ddilynwn i gefnogi llwyddiant pob dysgwr.

  1. Ecwiti a Thegwch: Rydym yn sicrhau bod pob asesiad yn cael ei gynllunio a’i gynnal heb ragfarn, gan ddarparu cyfleoedd cyfartal i ddysgwyr dangos eu gwybodaeth a’u sgiliau, waeth beth fo’u nodweddion personol, gan gynnwys oedran, rhyw, anabledd, ethnigrwydd, crefydd, neu gefndir economaidd-gymdeithasol.
  2. Addasiadau Rhesymol: Rydym yn darparu’n weithredol ar gyfer anghenion dysgwyr ag anableddau, gwahaniaethau dysgu, neu anghenion eraill trwy weithredu addasiadau rhesymol yn unol â chanllawiau cyfreithiol a chanllawiau cyrff dyfarnu. Gall hyn gynnwys amser estynedig, fformatau amgen, neu dechnolegau cynorthwyol.
  3. Eglurder a Hygyrchedd: Mae meini prawf, dulliau a disgwyliadau asesu yn cael eu cyfleu’n glir ac mewn fformatau hygyrch i bob dysgwr, gan sicrhau tryloywder a dealltwriaeth.
  4. Adborth Adeiladol ac Apeliadau: Rhoddir adborth adeiladol ac amserol i ddysgwyr i gefnogi eu twf a’u datblygiad. Yn ogystal, mae proses apelio deg a thryloyw ar gael i’r rhai sydd am herio penderfyniad asesu.
  5. Cyfrinachedd a Pharch: Rydym yn trin yr holl wybodaeth bersonol sy’n gysylltiedig ag asesiadau gyda’r cyfrinachedd a’r parch mwyaf, gan gydymffurfio gyda GDPR.
  6. Iaith Asesu sy’n cael ei ffafrio: Mae cyfle gan ddysgwyr i gyflwyno eu tystiolaeth yn y Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog lle bo’n briodol. Ni fydd tystiolaeth a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na thystiolaeth a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r datganiad hwn yn tanlinellu ein hymroddiad i feithrin profiad addysgol cynhwysol, parchus a grymusol i bob dysgwr, gan sicrhau bod gan bawb y cyfle i gyflawni eu potensial llawn.

Ymunwch â ni

Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.

Cysylltwch â ni