Ar-lein
Saesneg
Sesiwn Flasu ar Ffotograffiaeth Ddigidol
Cod y Cwrs: K26C0020A
B
Sesiwn Flasu ar Ffotograffiaeth Ddigidol gan ddefnyddio eich ffôn clyfar
1 wythnos
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am un diwrnod gyda gwersi am 2 awr o 6:00 PM hyd 8:00 PM ar Ddydd Mawrth
Anachrededig
Trosolwg
Sesiwn flasu dwy awr i gyflwyno meddwl creadigol mewn perthynas â ffotograffiaeth ffonau clyfar. Bydd y sesiwn hefyd yn rhoi blas ar y cynnwys ar gyfer y cwrs pum wythnos, 'Ffotograffiaeth Ffonau Clyfar i Ddechreuwyr'.Cynnwys
Gall dau berson ddefnyddio'r un ffôn a chymryd ffotograffau gwahanol iawn. Mae'r gwahaniaeth fel arfer yn ymwneud â'r ffordd o edrych, nid yr offer. Mae'r sesiwn flasu rhad ac am ddim yma yn gyflwyniad ymlaciol ac ymarferol i'r ffordd o edrych. Canolbwyntir yn y sesiwn ar sut mae ffotograffwyr yn sylwi ar yr hyn sydd o'u blaenau, yn ei fframio, ac yn penderfynu beth i'w gynnwys.Yn y sesiwn, byddwch yn:
• Dysgu syniadau syml i wella eich lluniau yn syth
• Cymryd rhan mewn gweithgaredd ymarferol byr
• Rhannu a thrafod delweddau gyda chyfranogwyr eraill
• Ystyried sut mae ffotograffwyr yn gwneud penderfyniadau creadigol
• Blasu'r arddull gyfeillgar a cefnogol y cwrs llawn