Ffotograffiaeth Ddigidol | Addysg Oedolion Cymru
Ar-lein
Saesneg

Ffotograffiaeth Ddigidol

Cod y Cwrs: 59806
B

Ffotograffiaeth Ddigidol i Ddechreuwyr - Defnyddio Ffôn Clyfar


Hyd: 5 wythnos
Dyddiad Dechrau: 12/01/2027
Cost: Cost y cwrs i'w gadarnhau.
Lleoliad: Cwrs ar-lein dan arweiniad tiwtor yw hwn

5 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 5 wythnos gyda gwersi am 2 awr yr wythnos o 6:00 PM hyd 8:00 PM ar Ddydd Mawrth

Anachrededig


Trosolwg

Mae gan y rhan fwyaf ohonom gamera da yn ein poced, ac fe'i defnyddiwn yn ddyddiol. Bydd y cwrs ar-lein yma, sy'n para pum wythnos, yn eich annog i archwilio'r offeryn yma'n fanylach, i wneud eich ffotograffiaeth yn fwy meddylgar, creadigol a phersonol.

Cynnwys

Dros gyfnod o bum wythnos byddwch yn:

• Dod i adnabod camera eich ffôn a’i ddefnyddio’n hyderus
• Edrych ar beth sy’n gwneud ffotograff yn ddiddorol i edrych arno
• Gweld sut mae golau yn newid sut mae eich delweddau yn edrych
• Rhoi cynnig ar dechnegau cyfansoddi syml sy’n gwneud gwahaniaeth amlwg
• Archwilio ffyrdd gwahanol o adrodd straeon trwy ffotograffiaeth
• Golygu eich lluniau gan ddefnyddio meddalwedd rhad ac am ddim
• Dewis a chyflwyno eich gwaith gorau
Wythnos 1: Deall eich Camera
Wythnos 2: Meddwl am Olau
Wythnos 3: Cyfansoddi Delweddau
Wythnos 4: Testunau ac Adrodd Straeon
Wythnos 5: Prosesu eich delweddau gan ddefnyddio meddalwedd

Deilliant y Cwrs

Byddwch yn gweithio tuag at Achrediad Agored Cymru.

Gofynion Mynediad

Mae'r cwrs ar gyfer dechreuwyr llwyr. Nid oes angen offer drud na phrofiad blaenorol arnoch, ac mae unrhyw ffôn clyfar yn addas.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Y posibilrwydd o fynychu cwrs Ffotograffiaeth Ddigidol gan ddefnyddio camera digidol.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Bydd angen ffôn clyfar a gliniadur neu gyfrifiadur gyda chamera i fynychu'r sesiynau ar-lein.

Webfeed Date: 16/11/2026 14:27:36