Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng yn y Gwaith | Addysg Oedolion Cymru
Ystafell Ddosbarth
Saesneg

Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng yn y Gwaith

Cod y Cwrs: S26C0148A
L

Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle (RQF)


Hyd: 1 wythnos
Dyddiad Dechrau: 09/12/2026
Darperir tystysgrif
Cost: Am ddim
Lleoliad: Ysgol Uwchradd Y Trallwng, Salop Road, Y Trallwng, SY21 7RE

1 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am un diwrnod gyda gwersi am 7 awr o 8:30 AM hyd 3:30 PM ar Ddydd Mercher

Wedi'i achredu'n llawn

Mae hwn yn gwrs achrededig sydd wedi'i ardystio gan HABC


Trosolwg

Mae ein cwrs undydd yn ddelfrydol i’r sawl y mae angen iddynt ddod yn swyddog cymorth cyntaf brys yn y gweithle. Mae hefyd yn ddelfrydol i aelodau’r cyhoedd a phobl sydd â chyfrifoldeb penodol i ddarparu gwasanaeth cymorth cyntaf mewn digwyddiadau gwirfoddol a chymunedol.

Cynnwys

Bydd ein cwrs Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle yn datblygu’r sgiliau sy’n ofynnol i asesu argyfwng a pherfformio cymorth cyntaf yn ddiogel, gan sicrhau na wnaiff sefyllfaoedd waethygu wrth ddisgwyl i gymorth cyrraedd.

Mae’r pynciau yn cynnwys:
• rolau a chyfrifoldebau swyddog cymorth cyntaf
• asesu sefyllfa argyfyngus yn ddiogel
• Adfywio Cardio-pwlmonaidd a defnyddio Diffibriliwr Allanol Awtomataidd
• rhoi cymorth cyntaf yn ddiogel i glaf sy’n tagu
• ymdrin â sioc, llosgiadau, sgaldiadau, gwaedu a mân anafiadau.

Deilliant y Cwrs

Wrth gwblhau’r cwrs hwn, byddwch chi’n cael Dyfarniad cydnabyddedig ar Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle, a bydd y cymhwyster yn ddilys am 3 blynedd.

Gofynion Mynediad

• Mae cymorth cyntaf yn gymhwyster corfforol ei natur. Er mwyn ennill y cymhwyster, bydd yn rhaid i ddysgwyr fod â lefel rhesymol o ffitrwydd corfforol a dylai eu hiechyd fod yn dda.
• Llythrennedd Saesneg Lefel 1 – darllen, ysgrifennu, cyfathrebu llafar.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Cymwysterau Iechyd a Diogelwch Eraill.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Cynhelir y cwrs mewn amgylchedd wyneb yn wyneb (Ystafell Ddosbarth).
• Mae’n rhaid dangos rhyw fath o ddogfen adnabod (gyda llun yn ddelfrydol) er mwyn ennill y cymhwyster.
• Pen ysgrifennu a phapur
• Pecyn bwyd a lluniaeth
• Dillad addas i osgoi unrhyw chwithdod wrth wneud gweithgareddau ymarferol (h.y. dim topiau gwddf isel na sgertiau byr/siorts)

Webfeed Date: 16/11/2026 14:27:36