Celf | Addysg Oedolion Cymru
Ystafell Ddosbarth
Saesneg

Celf

Cod y Cwrs: G26C0013A
M

Celf yn Llanrwst


Hyd: 6 wythnos
Dyddiad Dechrau: 02/11/2026
Darperir tystysgrif
Cost: £30 (Efallai y bydd gennych hawl i gyfradd ostyngol – gweler y polisi ffioedd (yn agor mewn tab newydd)) / £120 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Llyfrgell Llanrwst, Plas yn Dre, Llanrwst, LL26 0DR

6 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 6 wythnos gyda gwersi am 2½ awr yr wythnos o 1:00 PM hyd 3:30 PM ar Ddydd Llun

Wedi'i achredu'n llawn

Mae hwn yn gwrs achrededig sydd wedi'i ardystio gan AGORED


Trosolwg

Bydd y cwrs yn cyflwyno dysgwyr i elfennau ffurfiol celf gan gynnwys llinell, siâp, ffurf, tôn, gwead, patrwm a lliw.

Cynnwys

Byddwn yn dysgu am elfennau celf ac yn arbrofi gyda deunyddiau a phrosesau cyn eu rhoi at ei gilydd i greu dau ddarn o gelf: tu mewn i ystafell o'ch dewis a phortread o berson o'ch dewis.

Deilliant y Cwrs

Cymhwyster Agored Achrededig.

Gofynion Mynediad

Dim. Mae'r dosbarth yn addas ar gyfer dechreuwyr a dysgwyr sydd â rhywfaint o brofiad o luniadu a phaentio ac sydd eisiau datblygu eu sgiliau ymhellach.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Symud ymlaen i gyrsiau AOC eraill ar ein cynllun dilyniant Celf. Symud ymlaen i feysydd pwnc eraill gydag AOC.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Bydd angen detholiad o ddeunyddiau celf arnoch gan gynnwys pensiliau, pensiliau lliw neu basteli, paent (er enghraifft dyfrlliw neu acrylig), papur lluniadu a phapur priodol ar gyfer paentio (e.e. papur trwchus neu ddyfrlliw). Bydd angen brwshys, palet paent, miniwr pensiliau a detholiad o bensiliau hefyd. Bydd y tiwtor yn darparu rhai deunyddiau gallwch roi cynnig arnynt cyn eu prynu, fodd bynnag efallai y byddai'n well gennych ddod â rhai eich hun.

Webfeed Date: 18/11/2026 14:26:10