Cynhyrchu Cân Delynegol | Addysg Oedolion Cymru
Ar-lein
Saesneg

Cynhyrchu Cân Delynegol

Cod y Cwrs: S26C0142A
M

Cyflwyniad i Greu Geiriau Cân


Hyd: 5 wythnos
Dyddiad Dechrau: 17/11/2026
Darperir tystysgrif
Cost: Am ddim (ar gyfer cymwys Dysgwyr sy’n byw yng Nghymru) / £100 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Cwrs ar-lein dan arweiniad tiwtor yw hwn

5 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 5 wythnos gyda gwersi am 2½ awr yr wythnos o 6:00 PM hyd 8:30 PM ar Ddydd Mawrth

Wedi'i achredu'n llawn

Mae hwn yn gwrs achrededig sydd wedi'i ardystio gan AGORED


Trosolwg

Bydd y cwrs yn eich helpu i ddeall beth sy'n gwneud geiriau cân da, ac yn eich arwain wrth lunio geiriau ar gyfer cân.
Byddwch yn dewis, darllen a dadansoddi geiriau caneuon ac yn gwneud sylwadau arnynt, yn ogystal â chynllunio a drafftio geiriau ar gyfer cân. Byddwch hefyd yn paratoi copi ysgrifenedig terfynol ac yn cyflwyno'r geiriau naill ai fel perfformiad neu fel darn o waith ysgrifenedig.

Cynnwys

Os ydych wedi ysgrifennu o'r blaen neu heb roi'r geiriau lawr ar y dudalen eto, bydd y cwrs hwn yn cynnwys ymarferion, awgrymiadau, ysbrydoliaeth ac anogaeth i'ch rhoi ar daith ysgrifennu newydd. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu rhai o'r sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen i ysgrifennu geiriau caneuon.

Deilliant y Cwrs

Cwrs Achrededig. Mae angen ymrwymiad i fynychu'n rheolaidd.

Gofynion Mynediad

Dim, mae'n agored i bawb.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Cyrsiau dilynol gydag AOC. Achrededig ac Anachrededig.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Cyflwynir y cwrs drwy MS Teams. Bydd y sefydliad yn darparu cyfeiriad e-bost a chyfrinair er mwyn cael mynediad i'r cwrs. Darperir Cymorth TG i helpu dysgwyr i gael mynediad i'r cwrs, os oes angen. Bydd angen Cyfrifiadur/Gliniadur (neu Dabled) arnoch, gyda chamera a meicroffon i ryngweithio gyda'r tiwtor a dysgwyr eraill. Anogir defnyddio clustffonau. Bydd angen i chi fewngofnodi cyn i'r cwrs ddechrau (argymhellir gwneud hyn o leiaf dridiau ymlaen llaw), er mwyn rhoi amser i'n Hadran TG eich cynorthwyo os oes angen, cyn i'r cwrs ddechrau.

Webfeed Date: 16/11/2026 14:27:36