Ysgrifennu Creadigol (Cwrs Ar-lein) | Addysg Oedolion Cymru
Ar-lein
Saesneg

Ysgrifennu Creadigol (Cwrs Ar-lein)

Cod y Cwrs: S26C0140A
M

Ysgrifennu Creadigol


Hyd: 4 wythnos
Dyddiad Dechrau: 19/11/2026
Cost: £20 (Efallai y bydd gennych hawl i gyfradd ostyngol – gweler y polisi ffioedd (yn agor mewn tab newydd)) / £80 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Cwrs ar-lein dan arweiniad tiwtor yw hwn

4 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 4 wythnos gyda gwersi am 2½ awr yr wythnos o 6:00 PM hyd 8:30 PM ar Ddydd Iau

Anachrededig


Trosolwg

Cwrs ysgrifennu lle byddwch yn gweithio ar ffuglen fer iawn, straeon byrion a llenyddiaeth atgofion, ac yn rhannu eich gwaith. Byddwch yn dysgu sut i ddatblygu eich sgiliau creadigol ac yn cael syniadau, ysgogiadau ac anogaeth i gynnal eich gwaith ysgrifennu.

Cynnwys

Os ydych wedi ysgrifennu o'r blaen neu heb roi'r geiriau lawr ar y dudalen eto, bydd y cwrs hwn yn cynnwys ymarferion, awgrymiadau, ysbrydoliaeth ac anogaeth i'ch rhoi ar daith ysgrifennu newydd.

Deilliant y Cwrs

Nid yw'r cwrs hwn yn darparu cymhwyster. Cyhoeddir Tystysgrifau Presenoldeb pan ofynnir amdanynt gan ddysgwyr.

Gofynion Mynediad

Dim, yn agored i bawb.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Cyrsiau dilynol gydag AOC. Achrededig ac Anachrededig.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Cyflwynir y cwrs drwy MS Teams. Bydd y sefydliad yn darparu cyfeiriad e-bost a chyfrinair er mwyn cael mynediad i'r cwrs. Darperir Cymorth TG i helpu dysgwyr i gael mynediad i'r cwrs, os oes angen. Bydd angen Cyfrifiadur/Gliniadur (neu Dabled) arnoch, gyda chamera a meicroffon i ryngweithio gyda'r tiwtor a dysgwyr eraill. Anogir defnyddio clustffonau.

Webfeed Date: 16/11/2026 14:27:36