Ystafell Ddosbarth
Saesneg
Cyllidebu Personol a Rheoli Arian
Cod y Cwrs: P26C0013B
B
Teimlo'n fwy hyderus wrth reoli eich arian!
8 wythnos
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 8 wythnos gyda gwersi am 4 awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 2:00 PM ar Ddydd Llun
Wedi'i achredu'n llawn
Mae hwn yn gwrs achrededig sydd wedi'i ardystio gan AGORED
Trosolwg
Hoffech chi deimlo'n fwy hyderus wrth reoli eich arian?Bydd y cwrs achrededig hwn, sy'n para wyth wythnos, yn eich helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol i reoli eich cyllid, cynllunio eich gwariant a gwneud dewisiadau gwybodus am eich arian.
Gyda'r Nadolig a threuliau ychwanegol eraill ar y gorwel, mae'r cwrs hefyd yn gyfle gwych i ystyried ffyrdd o gynllunio ymlaen llaw a gwneud i'ch arian fynd ymhellach.
Cynnwys
Beth fyddwch yn astudio:• Llunio cyllideb a rheoli incwm a gwariant.
• Lleihau costau a chynllunio.
• Arbed a gwneud dewisiadau ariannol gwybodus.
• Meithrin hyder wrth reoli arian.
Cymhwyster
Mae hwn yn gwrs achrededig. Byddwch yn derbyn tystysgrif ar ddiwedd y cwrs.Gofynion Mynediad
Mae'r cwrs yn addas i unrhyw un sydd am wella eu sgiliau cyllidebu a rheoli arian.Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.