Coginio Fforddiadwy: Blasau’r Byd | Addysg Oedolion Cymru
Ystafell Ddosbarth
Saesneg gyda rhywfaint o Gymraeg

Coginio Fforddiadwy: Blasau’r Byd

Cod y Cwrs: P26C0022B
B

Archwilio blasau Cymreig a rhyngwladol.


Hyd: 9 wythnos
Dyddiad Dechrau: 07/10/2026
Cost: £45 (Efallai y bydd gennych hawl i gyfradd ostyngol – gweler y polisi ffioedd (yn agor mewn tab newydd)) / £180 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Gweithdy Dove, Canolfan Gymunedol Banwen, Castell-nedd, SA10 9LW

9 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 9 wythnos gyda gwersi am 2½ awr yr wythnos o 1:00 PM hyd 3:30 PM ar Ddydd Mercher

Anachrededig


Trosolwg

Beth fyddwch yn gwneud:
• Paratoi prydau fforddiadwy, bob dydd gan ddefnyddio cynhwysion syml.
• Archwilio blasau wedi'u hysbrydoli gan wahanol fathau o goginio.
• Dysgu technegau coginio sylfaenol i feithrin hyder yn y gegin.
• Darganfod awgrymiadau ar gyfer cynllunio prydau darbodus a lleihau gwastraff bwyd.

Cynnwys

Cyfle i archwilio blasau Cymreig a rhyngwladol drwy'r cwrs coginio ymarferol yma. Datblygwch sgiliau cegin ymarferol wrth baratoi amrywiaeth o brydau a dysgu am yr hanes, y diwylliant a'r traddodiadau sy'n gysylltiedig â nhw. Gan ddefnyddio cynhwysion fforddiadwy, bob dydd, mae'r cwrs wedi'i gynllunio i feithrin hyder ac i'ch ysbrydoli i ail-greu prydau blasus gartref.

Cymhwyster

Bydd cyfleoedd achrededig pellach ar gael.

Gofynion Mynediad

Mae'r sesiynau'n addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu sgiliau coginio, rhoi cynnig ar flasau newydd, a dysgu sut i baratoi prydau fforddiadwy gartref. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Bydd eich tiwtor yn darparu rhestr o gynhwysion ar gyfer pob sesiwn ar ôl i chi gofrestru. Bydd angen i bob dysgwr brynu ei gynhwysion ei hun.
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar goginio fforddiadwy, gan ddefnyddio cynhwysion a ryseitiau darbodus sy'n gallu creu pryd bwyd i ddau berson neu bryd teuluol i bedwar. Anogir dysgwyr i ddefnyddio cynhwysion sydd eisoes ganddynt gartref lle bynnag y bo modd, er mwyn helpu i leihau costau a gwastraff.

Webfeed Date: 08/10/2026 15:19:57