Cyflwyniad i Addysgu a Dysgu | Addysg Oedolion Cymru
Ystafell Ddosbarth
Saesneg gyda rhywfaint o Gymraeg

Cyflwyniad i Addysgu a Dysgu

Cod y Cwrs: P26C0027A
L

Cyflwyniad i gefnogi addysgu a dysgu o fewn lleoliad addysgol.


Hyd: 5 wythnos
Dyddiad Dechrau: 01/10/2026
Tystysgrif am ddim
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 5 wythnos gyda gwersi am 4 awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 2:00 PM ar Ddydd Iau
Cost: Am ddim (ar gyfer cymwys Dysgwyr sy’n byw yng Nghymru) / £160 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Gweithdy Dove, Canolfan Gymunedol Banwen, Castell-nedd, SA10 9LW

5 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 5 wythnos gyda gwersi am 4 awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 2:00 PM ar Ddydd Iau

Wedi'i achredu'n llawn

Mae hwn yn gwrs achrededig sydd wedi'i ardystio gan AGORED


Trosolwg

Mae'r cwrs achrededig Lefel 1 hwn yn cyflwyno cefnogi addysgu a dysgu o fewn lleoliad addysgol. Mae'n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc neu sy'n ystyried dysgu pellach yn y maes hwn.
Rhoddir cipolwg i chi ar y rôl, y cyfrifoldebau a'r sgiliau sy'n gysylltiedig â chefnogi addysgu a dysgu ac yn eich helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth a'ch hyder.

Cynnwys

Byddwch yn archwilio amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â chefnogi addysgu a dysgu, gan gynnwys rôl staff cymorth, gweithio gyda dysgwyr ac eraill, cyfathrebu a chreu amgylchedd dysgu cadarnhaol.
Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o weithio o fewn lleoliad addysg.

Cymhwyster

Mae hwn yn gwrs achrededig Lefel 1.

Gofynion Mynediad

Mae'r cwrs ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi addysgu a dysgu. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Mae'r cwrs yn rhan o lwybr dysgu ehangach mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu. Byddwch yn cael y cyfle i feithrin eich sgiliau trwy becyn o gyrsiau cysylltiedig aer mwyn symud ymlaen i ddysgu pellach, gan gynnwys Lefel 2 Cefnogi Addysgu a Dysgu.
Mae'r llwybr wedi'i gynllunio i'ch helpu i feithrin eich gwybodaeth, eich hyder a'ch sgiliau gam wrth gam, gan gefnogi dilyniant tuag at astudiaeth bellach a chyflogaeth.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Cyflwynir y cwrs wyneb yn wyneb. Gall llyfr nodiadau a phen ysgrifennu fod yn ddefnyddiol ar gyfer cymryd nodiadau. Bydd eich tiwtor yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am unrhyw beth arall y gallech fod ei angen cyn i'r cwrs ddechrau.

Webfeed Date: 12/09/2026 02:04:24