Ystafell Ddosbarth
Saesneg
CPCAB L3 Tystysgrif mewn Sgiliau Cwnsela
Cod y Cwrs: X26C0023A
A
CPCAB L3 Tystysgrif mewn Sgiliau Cwnsela
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 10 mis gyda gwersi am 3 awr yr wythnos o 6:00 PM hyd 9:00 PM ar Ddydd Mawrth
30 wythnos
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 10 mis gyda gwersi am 3 awr yr wythnos o 6:00 PM hyd 9:00 PM ar Ddydd Mawrth
Wedi'i achredu'n llawn
Mae hwn yn gwrs achrededig sydd wedi'i ardystio gan CPCAB
Trosolwg
Mae’r cwrs yn cynnig cyfle i wneud y canlynol:· Paratoi i ddefnyddio fframwaith proffesiynol o fewn lleoliad cwnsela
· Datblygu dealltwriaeth o’r berthynas cwnsela
· Paratoi i ddefnyddio dealltwriaeth o amrywiaeth a sgiliau mewn perthynas cwnsela.
· Paratoi i reoli’r broses cwnsela fel rhan o gontract sy’n canolbwyntio ar anghenion defnyddiwr.
· Datblygu ymwybyddiaeth bersonol a dealltwriaeth i baratoi at waith sgiliau cwnsela.
· Datblygu dealltwriaeth o’r broses cwnsela.
· Deall goruchwyliaeth.
https://www.cpcab.co.uk/qualifications/cst-l3
Mae'r cwrs yn rhan-amser - 1 sesiwn o dair awr yr wythnos, am 30 wythnos. Mae yna hefyd 2 diwtorial 30 munud yn ystod y cwrs. Bydd angen astudio yn ychwanegol hefyd - o leiaf 4 awr yr wythnos, a mwy ar adegau penodol yn ystod y cwrs.
Cynnwys
Mae’r cwrs yn darparu cyfnod pontio o ddefnyddio sgiliau cwnsela sylfaenol i astudiaeth fanylach ac ymarfer y sgiliau. Mae’r cwrs yn ofyniad mynediad ar gyfer y cwrs Diploma CPCAB Uwch mewn Cwnsela Therapiwtig dros 2 flynedd, ac mae’n paratoi hyfforddeion ar gyfer gweithio mewn lleoliad asiantaeth fel cynghorydd dan hyfforddiant.Cymhwyster
Tystysgrif mewn Astudiaethau Cwnsela Lefel 3 (CST-L3).Gofynion Mynediad
Bydd angen i fyfyrwyr fod wedi cyflawni Tystysgrif Lefel 2 CPCAB mewn Sgiliau Cwnsela (neu gymhwyster cyfwerth). Caiff ymgeiswyr eu dewis ar sail ffurflen gais ysgrifenedig, datganiad personol a chyfweliad os ydych chi wedi cwblhau lefel 2 gyda darparwr arall.Ystyriaethau eraill o ran gofynion mynediad:
Oedran – Mae’n rhaid i chi fod yn 19 mlwydd oed o leiaf i gofrestru ar y cwrs hwn. Nid oes uchafswm oedran.
Ymrwymiad – Mae’n rhaid i chi allu neilltuo’r amser a’r adnoddau sy’n ofynnol i gyflawni’r elfennau ymarferol cymwysedig a dylech geisio mynychu o leiaf 80% o’r sesiynau addysgu.
Cyfleoedd i Symud Ymlaen
Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i fynd ati i astudio am y cymhwyster dilynol gan CPCAB:Diploma Uwch (Lefel 4) CPCAB mewn Cwnsela Therapiwtig.