Sgiliau defnyddio Ffôn Clyfar ar gyfer bywyd bob dydd | Addysg Oedolion Cymru
Ystafell Ddosbarth
Saesneg gyda rhywfaint o Gymraeg

Sgiliau defnyddio Ffôn Clyfar ar gyfer bywyd bob dydd

Cod y Cwrs: P26C0010B
B

Sgiliau defnyddio Ffôn Clyfa


Hyd: 7 wythnos
Dyddiad Dechrau: 15/10/2026
Cost: Am ddim (ar gyfer cymwys Dysgwyr sy’n byw yng Nghymru) / £168 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Canolfan Hyfforddi Glyn-nedd , Stryd Oddfellows, Castell-nedd, SA11 5DB

7 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 7 wythnos gyda gwersi am 3 awr yr wythnos o 12:00 PM hyd 3:00 PM ar Ddydd Iau

Anachrededig


Trosolwg

Addysgir y cwrs ar gyflymder hamddenol gyda chanllawiau cam wrth gam a digon o gyfleoedd i ymarfer eich sgiliau mewn amgylchedd cefnogol. Byddwch yn magu hyder wrth aros mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau a gwneud y gorau o'r hyn y gall eich ffôn clyfar ei wneud.

Cynnwys

Mae'r cwrs cyfeillgar a hamddenol hwn wedi'i gynllunio ar gyfer dechreuwyr llwyr neu unrhyw un sydd eisiau gwella eu hyder wrth ddefnyddio ffôn clyfar ar gyfer bywyd bob dydd. Byddwch yn dysgu sut i wneud galwadau ac anfon negeseuon, defnyddio'r rhyngrwyd ac apiau, tynnu ffotograffau a'u rhannu, aros yn ddiogel ar-lein, a defnyddio'ch ffôn ar gyfer tasgau bob dydd fel siopa, bancio a threfnu apwyntiadau.

Deilliant y Cwrs

Cwrs anachrededig.

Gofynion Mynediad

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr llwyr neu unrhyw un sydd heb lawer o hyder wrth ddefnyddio ffôn clyfar.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, efallai yr hoffech symud ymlaen i:
• Gyrsiau Sgiliau Digidol Hanfodol
• Cyrsiau cyfrifiadur neu ddyfais tabled i ddechreuwyr

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Dewch a'ch ffôn clyfar a'ch gwefrwr batri i'r dosbarth os yn bosibl. Nid oes angen sgiliau cyfrifiadurol. Bydd y tiwtor yn darparu taflenni a deunyddiau dysgu.

Webfeed Date: 18/11/2026 01:24:22