| Addysg Oedolion Cymru
cwrs blaenorol
Ystafell Ddosbarth
Saesneg

Cod y Cwrs: S26C0118A
M

Defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial ar gyfer Anghenion Dyddiol


Hyd: 1 wythnos
Dyddiad Dechrau: 19/10/2026
Cost: Am ddim (ar gyfer cymwys Dysgwyr sy’n byw yng Nghymru) / £24 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Canolfan Gymunedol Aber-miwl, Abermule, SY15 6ND

1 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am un diwrnod gyda gwersi am 3 awr o 1:30 PM hyd 4:30 PM ar Ddydd Llun

Anachrededig


Trosolwg

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin gyda dealltwriaeth gynhwysfawr o Gysyniadau a Chymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial, gan ei wneud yn berffaith i'r dysgwyr hynny sydd am ddeall sut mae Deallusrwydd Artiffisial yn gweithio. Bydd y cwrs yn ymdrin hefyd ag Ystyriaethau Moesegol ac Amgylcheddol Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial.

Cynnwys

Bydd y cwrs yn dysgu gwybodaeth hanfodol am AI i chi yn ogystal â rhai sgiliau sy'n gysylltiedig gyda Deallusrwydd Artiffisial, fel defnyddio Co-pilot neu ChatGPT ac ysgrifennu awgrymiadau i dderbyn y wybodaeth rydych yn chwilio amdano. Cysylltir y gweithgareddau i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i gynllunio teithiau a digwyddiadau, ysgrifennu llythyrau ac e-byst, a dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy.

Deilliant y Cwrs

Nid yw'r cwrs hwn yn darparu cymhwyster.

Gofynion Mynediad

Dim. Mae'r cwrs yn agored i bawb.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Mwy o gyrsiau gydag AOC.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Darperir yr holl adnoddau. Cwrs Wyneb yn Wyneb yw hwn. Os oes gennych ddiddordeb mewn Sesiwn Blasu Ar-lein, cysylltwch â ni.

Webfeed Date: 18/11/2026 01:24:22