Celf | Addysg Oedolion Cymru
Ystafell Ddosbarth
Saesneg

Celf

Cod y Cwrs: G26C0007A
M

Hyd: 8 wythnos
Dyddiad Dechrau: 29/09/2026
Tystysgrif am ddim
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 8 wythnos gyda gwersi am 3 awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 1:00 PM ar Ddydd Mawrth
Cost: £48 (Efallai y bydd gennych hawl i gyfradd ostyngol – gweler y polisi ffioedd (yn agor mewn tab newydd)) / £192 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Llyfrgell Bae Colwyn, Ffordd Woodland - Gorllewin, Bae Colwyn, LL29 7DH

8 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 8 wythnos gyda gwersi am 3 awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 1:00 PM ar Ddydd Mawrth

Wedi'i achredu'n llawn

Mae hwn yn gwrs achrededig sydd wedi'i ardystio gan AGORED


Trosolwg

Bydd dysgwyr yn cael eu harwain trwy ystod o sgiliau Celf a Dylunio yn seiliedig ar eu dewis pwnc eu hunain. Er enghraifft, gallai hwn fod yn hoff artist, diwylliant, geiriau caneuon, cerdd, atgof neu ddiddordeb.

Cynnwys

Yn y cwrs yma sy'n seiliedig ar brosiect, cewch eich arwain wrth arbrofi gydag ystod o ddeunyddiau a dulliau a ddefnyddir yn y diwydiant Celf a Dylunio. Byddwch yn cynhyrchu portffolio o waith paratoi a darn terfynol yn seiliedig ar eich syniadau gyda chefnogaeth y tiwtor.

Cymhwyster

Cymhwyster Agored Achrededig.

Gofynion Mynediad

Dim.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Cyrsiau pellach gydag Addysg Oedolion Cymru gan gynnwys dau o'r canlynol: Defnyddio Damcaniaeth Lliw, Celf yng Nghymru, Defnyddio Elfennau Ffurfiol mewn Celf a Dylunio, Peintio gydag Acrylig, Lluniadu, a Lluniadu drwy Arsylwi.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Deunyddiau Celf Sylfaenol gan gynnwys pensiliau lluniadu, rwber, paent dyfrlliw, brwshys paent, pad celf/lluniadu. Bydd eich tiwtor yn rhoi cyngor i chi ar yr hyn sydd ei angen. Nid oes rhaid prynu deunyddiau cyn y sesiwn gyntaf a gellir eu caffael dros amser.

Webfeed Date: 12/09/2026 02:04:24