Celf | Addysg Oedolion Cymru
Ystafell Ddosbarth
Saesneg

Celf

Cod y Cwrs: G26C0003A
I

Hyd: 10 wythnos
Dyddiad Dechrau: 28/09/2026
Darperir tystysgrif
Cost: £50 (Efallai y bydd gennych hawl i gyfradd ostyngol – gweler y polisi ffioedd (yn agor mewn tab newydd)) / £200 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Llyfrgell Llanrwst, Plas yn Dre, Llanrwst, LL26 0DR

10 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 10 wythnos gyda gwersi am 2½ awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 12:30 PM ar Ddydd Llun

Wedi'i achredu'n llawn

Mae hwn yn gwrs achrededig sydd wedi'i ardystio gan AGORED


Trosolwg

Cynnwys y Cwrs - Mae'r dosbarth yn addas ar gyfer dechreuwyr neu'r rhai sydd â phrofiad blaenorol o ddefnyddio dyfrlliw. Yn ystod chwe wythnos gyntaf y cwrs, byddwn yn dysgu am ddeunyddiau ac offer addas, yn ymarfer technegau dyfrlliw, ac yn edrych yn fyr ar theori lliw cyn creu tirweddau syml ar thema gaeaf. Ar ôl hanner tymor, bydd dysgwyr yn creu eu hymateb eu hunain i friff a ddarperir gan y tiwtor. Mae hwn yn gwrs achrededig sy'n cynnwys rhai elfennau ysgrifenedig.

Cynnwys

Yn y dosbarth hwn byddwn yn archwilio'r defnydd o dechnegau a chyfryngau dyfrlliw i ddatblygu sgiliau mewn peintio dyfrlliw.

Deilliant y Cwrs

Cymhwyster Agored Achrededig.

Gofynion Mynediad

Dim. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer dechreuwyr brwd neu'r rhai sydd â rhywfaint o brofiad sydd eisiau datblygu eu sgiliau ymhellach.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Cyrsiau pellach gydag Addysg Oedolion Cymru gan gynnwys dau o'r canlynol: Defnyddio Damcaniaeth Lliw, Celf yng Nghymru, Defnyddio Elfennau Ffurfiol mewn Celf a Dylunio, Peintio gydag Acrylig, Lluniadu, a Lluniadu drwy Arsylwi.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Set dyfrlliw sylfaenol sy'n cynnwys lliwiau cynradd mewn arlliwiau cynnes ac oer (mae padelli neu diwbiau'n iawn)
Papur dyfrlliw - mae'r rhain yn amrywio o ran ansawdd ond bydd y fersiynau rhatach yn iawn i ddechrau
Detholiad bach o frwshys gan gynnwys o leiaf un brwsh crwn ac un brwsh gwastad o faint canolig (ddim yn rhy fach)
Palet (porslen gwyn neu henblât gwyn yn ddelfrydol)
Lliain i sychu brwshys
Cynhwysydd dŵr
Sychwr gwallt i sychu rhwng haenau
Tâp Washi neu dâp masgio main, isel ei lynu

*Darperir digon o gyfrwng dyfrlliw i fodloni'r meini prawf achredu, ond dewch ag unrhyw rai sydd gennych eisoes i roi cynnig arnynt a'u rhannu.

Webfeed Date: 18/11/2026 01:24:22