Ystafell Ddosbarth
Saesneg gyda rhywfaint o Gymraeg
Coginio Fforddiadwy: Blasau’r Byd
Cod y Cwrs: P26C0022A
B
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 2 wythnos gyda gwersi am 2½ awr yr wythnos o 1:00 PM hyd 3:30 PM ar Ddydd Mercher
2 wythnos
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 2 wythnos gyda gwersi am 2½ awr yr wythnos o 1:00 PM hyd 3:30 PM ar Ddydd Mercher
Anachrededig
Trosolwg
Byddwch yn paratoi prydau dyddiol fforddiadwy gan ddefnyddio cynhwysion syml, gan archwilio blasau a ysbrydolwyd gan wahanol goginio. Dysgwch dechnegau coginio sylfaenol i adeiladu hyder yn y gegin a darganfod awgrymiadau ar gyfer cynllunio prydau sy'n fforddiadwy a lleihau gwastraff bwyd.Cynnwys
Ymunwch â ni am ddwy sesiwn blasu coginio sy'n archwilio prydau fforddiadwy wedi'u hysbrydoli gan flasau o bob cwr o'r byd.Dechreuwch eich taith goginio trwy ddathlu treftadaeth goginiol gyfoethog Cymru a chofio Dydd Owain Glyndŵr. Yn y sesiwn blasu ymarferol hon, byddwch yn darganfod ryseitiau Cymreig traddodiadol, yn dysgu sgiliau coginio ymarferol ac yn archwilio hanes a diwylliant sydd tu ôl i'r prydau y byddwn yn eu paratoi gyda'n gilydd. I helpu cadw costau i lawr, mae'r ryseitiau wedi'u dewis yn ofalus i ddefnyddio cynhwysion dyddiol, fforddiadwy.
Cymhwyster
Sesiynau Blasu heb eu achredu (Am Ddim i fynychu)Gofynion Mynediad
Mae’r sesiynau hyn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu sgiliau coginio, rhoi cynnig ar flasau newydd ac dysgu sut i baratoi prydau fforddiadwy gartref. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.Cyfleoedd i Symud Ymlaen
Ar ôl y sesiynau blasu hyn, gallwch symud ymlaen i gwrs hirach heb ei achredu Coginio Fforddiadwy: cwrs Blasau'r Byd, gan barhau i ddatblygu sgiliau coginio ymarferol a darganfod ystod ehangach o ryseitiau fforddiadwy. Bydd cyfleoedd achrededig pellach ar gael hefyd.Beth Sydd Ei Angen Arnaf?
Bydd y tiwtor yn rhoi rhestr o gynhwysion ar gyfer pob sesiwn ar ôl i chi gofrestru . Bydd angen i pob dysgwr brynu eu cynhwysion eu hunain.Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar goginio fforddiadwy, gan ddefnyddio cynhwysion a ryseitiau cost-effeithiol sydd yn gallu creu pryd i ddau berson neu fwyd i deulu o bedwar. Anogir dysgwyr i ddefnyddio'r cynhwysion sydd ganddynt eisoes adref ble bynnag yn bosibl i helpu i leihau costau a gwastraff.