Ystafell Ddosbarth
Saesneg
Gweithdy Sgiliau Trwsio ac Atgyweirio
Cod y Cwrs: P26C0007B
B
Datblygu eich sgiliau atgyweirio, newid, gwnïo a thrwsio.
15 wythnos
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 5 mis gyda gwersi am 2½ awr yr wythnos o 1:00 PM hyd 3:30 PM ar Ddydd Mawrth
Anachrededig
Trosolwg
A hoffech ddysgu sut i atgyweirio, ailddefnyddio a rhoi bywyd newydd i'ch dillad a'ch tecstilau?Mae'r cwrs cyfeillgar ac ymarferol hwn yn ddelfrydol i unrhyw un hoffai ddatblygu eu sgiliau gwnïo ac atgyweirio wrth fod yn greadigol a helpu i leihau gwastraff. Byddwch yn dysgu ffyrdd ymarferol o atgyweirio, newid ac ailddefnyddio dillad a thecstilau i chi'ch hun, eich teulu a'ch cartref.
Cynnwys
Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol ar gyfer atgyweirio a newid dillad a thecstilau, gan gynnwys technegau gwnïo a thrwsio sylfaenol. Byddwch yn archwilio ffyrdd creadigol o ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau diangen neu wedi'u difrodi, gan roi bywyd newydd iddynt wrth feithrin eich hyder a'ch sgiliau.Deilliant y Cwrs
Cwrs anachrededig.Gofynion Mynediad
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o wnïo na thrwsio.Cyfleoedd i Symud Ymlaen
Yn dilyn y cwrs hwn, gallwch symud ymlaen i gyrsiau gwnïo, gwneud dillad neu decstilau achrededig pellach gyda ni.Beth Sydd Ei Angen Arnaf?
Anogir chi i ddod â'ch dillad a'ch tecstilau eich hun byddech yn hoffi eu hatgyweirio, eu newid neu roi bywyd newydd iddynt. Er mwyn helpu i gadw costau i lawr, rydym yn eich annog i edrych ar yr hyn sydd gennych eisoes gartref cyn prynu unrhyw beth newydd.Gallai hyn gynnwys dillad sydd angen eu trwsio, eitemau nad ydynt yn ffitio mwyach, tecstilau wedi'u difrodi neu eu gwisgo, neu ddillad yr hoffech eu newid neu eu hailgylchu. Bydd eich tiwtor yn cysylltu â chi cyn i'r cwrs ddechrau i drafod yr hyn hoffech weithio arno a'r hyn y gallai fod ei angen arnoch ar gyfer eich sesiwn gyntaf.