Ystafell Ddosbarth
Saesneg
Cod y Cwrs: S26C0074A
L
Diwydiannau Creadigol - Cyflogaeth a Mentergarwch
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 4 mis gyda gwersi am 3 awr yr wythnos o 5:30 PM hyd 8:30 PM ar Ddydd Mawrth
14 wythnos
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 4 mis gyda gwersi am 3 awr yr wythnos o 5:30 PM hyd 8:30 PM ar Ddydd Mawrth
Anachrededig
Trosolwg
Drwy gydol y cwrs, bydd dysgwyr yn meithrin eu sgiliau technegol wrth ddatblygu dealltwriaeth o wneud dillad a chynhyrchion.Bydd y cwrs hefyd yn cyflwyno sgiliau allweddol mewn cyflogadwyedd a datblygu busnes, gan gynnwys costio a phrisio cynhyrchion, defnyddio technegau marchnata priodol, a chynllunio a datblygu llinell gynnyrch.
Bydd y sgiliau'n cefnogi dysgwyr i archwilio cyfleoedd menter greadigol a deall agweddau masnachol cynhyrchu tecstilau.
Mae'r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy'n paratoi ar gyfer cyflogaeth, yn chwilio'n weithredol am waith, yn ystyried hunangyflogaeth, neu'n ystyried newid gyrfa i'r sector creadigol.
Cynnwys
Bydd y cwrs hwn yn helpu dysgwyr i ddatblygu'r hyder a sgiliau ymarferol mewn gweithredu peiriannau a thechnegau gwnïo â llaw.Bydd dysgwyr yn cael profiad ymarferol o ddefnyddio peiriant gwnïo, a byddant yn adnabod ac yn gweithio gydag amrywiaeth o ffabrigau. Bydd dysgwyr hefyd yn dilyn patrymau masnachol i greu eitemau syml fel bagiau tote a dillad.