Cyllidebu a Rheoli Arian – Sesiwn Blasu | Addysg Oedolion Cymru
Ystafell Ddosbarth
Saesneg

Cyllidebu a Rheoli Arian – Sesiwn Blasu

Cod y Cwrs: P26C0013A
B

Hyd: 1 wythnos
Dyddiad Dechrau: 02/11/2026
Cost: Am ddim (ar gyfer cymwys Dysgwyr sy’n byw yng Nghymru) / £32 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Gweithdy Dove, Canolfan Gymunedol Banwen, Castell-nedd, SA10 9LW

1 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am un diwrnod gyda gwersi am 4 awr o 10:00 AM hyd 2:00 PM ar Ddydd Llun

Anachrededig


Trosolwg

Bydd y sesiwn blasu Cyllidebu a Rheoli Arian rhad ac am ddim yma yn eich cyflwyno i nodweddion allweddol cyllidebu ac yn eich helpu i ddeall sut i reoli eich arian yn fwy effeithiol. Rhoddir gwybodaeth ymarferol ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio gwariant, deall incwm a gwariant a datblygu hyder gyda rheoli arian bob dydd.

Cynnwys

Byddwch yn archwilio hanfodion cyllidebu, gan gynnwys cynllunio gwariant misol, nodi costau hanfodol a rhai nad ydynt yn hanfodol ac edrych ar ffyrdd o wneud dewisiadau gwybodus am eich cyllid.

Cymhwyster

Mae hon yn sesiwn blasu anachrededig.

Gofynion Mynediad

Mae'r sesiwn ar agor i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Yn dilyn y sesiwn blasu yma, efallai byddech yn hoffi symud ymlaen i gyrsiau achrededig pellach gydag Addysg Oedolion Cymru.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Cyflwynir y sesiwn hon wyneb yn wyneb. Bydd llyfr a phen ysgrifennu yn ddefnyddiol ar gyfer cymryd nodiadau.

Webfeed Date: 06/10/2026 15:06:00