Celf | Addysg Oedolion Cymru
Ystafell Ddosbarth
Saesneg

Celf

Cod y Cwrs: X26C0018A
B

Cyflwyniad i Gelf Cymreig


Hyd: 9 wythnos
Dyddiad Dechrau: 15/09/2026
Darperir tystysgrif
Cost: £36 (Efallai y bydd gennych hawl i gyfradd ostyngol – gweler y polisi ffioedd (yn agor mewn tab newydd)) / £144 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Canolfan Farchogaeth Arbennig Clwyd, Canolfan Farchogaeth Arbennig Clwyd, Wrecsam, LL11 5HN

9 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 9 wythnos gyda gwersi am 2 awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 12:00 PM ar Ddydd Mawrth

Wedi'i achredu'n llawn

Mae hwn yn gwrs achrededig sydd wedi'i ardystio gan AGORED


Trosolwg

Drwy luniadu a phaentio, bydd dysgwyr yn archwilio themâu diwylliant personol a Chymreig wrth ddatblygu hyder creadigol a sgiliau mynegiannol. Mae'r cwrs yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf, creadigrwydd, neu dreftadaeth Cymru.

Cynnwys

Bydd y cwrs yma yn cyflwyno dysgwyr i elfennau ffurfiol celf gan gynnwys llinell, siâp, ffurf, tôn, gwead, patrwm a lliw. O dan arweiniad ein tiwtor celf profiadol byddwch yn cael hwyl yn dysgu am elfennau celf gyda deunyddiau a phrosesau cyn eu rhoi at ei gilydd i greu tirweddau Cymru. Gall hyn fod yn rhan o lwybr dilyniant tair blynedd.

Deilliant y Cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu. Ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif Agored Cymru.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs. Mae'n addas ar gyfer dechreuwyr neu ddysgwyr sydd gyda rhywfaint o brofiad.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Mae'r cwrs hefyd yn cynnig llwybr at gyfleoedd creadigol pellach a chyrsiau celf yn y dyfodol.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Deunyddiau celf sylfaenol (e.e. llyfr braslunio, pensiliau, miniwr pensil, rhwbiwr, paent dyfrlliw a brwshys).

Webfeed Date: 08/11/2026 01:24:01