Sgiliau Gwnïo | Addysg Oedolion Cymru
Ystafell Ddosbarth
Saesneg

Sgiliau Gwnïo

Cod y Cwrs: S26C0070A
L

Sgiliau Gwnïo ar gyfer Defnydd Personol, fel Anrhegion, a/neu Werthu.


Hyd: 12 wythnos
Dyddiad Dechrau: 23/09/2026
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 4 mis gyda gwersi am 3 awr yr wythnos o 9:30 AM hyd 12:30 PM ar Ddydd Mercher
Cost: £72 (Efallai y bydd gennych hawl i gyfradd ostyngol – gweler y polisi ffioedd (yn agor mewn tab newydd)) / £288 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Tŷ Dewi Sant, Ffordd Newydd, Y Drenewydd, SY16 1RB

12 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 4 mis gyda gwersi am 3 awr yr wythnos o 9:30 AM hyd 12:30 PM ar Ddydd Mercher

Anachrededig


Trosolwg

Byddwn yn ymdrin â sgiliau sylfaenol gan gynnwys botymau, sipiau, gorffeniadau semau, deall y peiriant gwnïo a datblygu sgiliau gwnïo â llaw. Bydd dysgwyr yn gwneud dillad o batrymau, yn addasu eu dillad eu hunain, ac yn ailgylchu dillad. Byddwn hefyd yn gwneud eitemau ar gyfer y cartref, a gwaith a chwarae gan gynnwys teganau, cloriau llyfrau, bagiau tote, hetiau syml, sliperi a menig. Archwilir amrywiaeth o ddiddordebau gyda dysgwyr yn datblygu prosiectau unigol yn ogystal â phrosiectau wedi'u hysbrydoli gan ddysgwyr lle gellir gweithio arnynt fel prosiectau grŵp - os bydd y dysgwyr eisiau gweithio ar brosiectau gyda'i gilydd.

Cynnwys

Datblygu hyder mewn gwnïo fel dechreuwr neu adnewyddu eich angerdd. Bydd eich tiwtor yn eich cefnogi i ddatblygu cynllun personol ar gyfer gwnïo, lle byddwch yn cael eich tywys trwy sgiliau a thechnegau gwnïo sy'n briodol i'ch diddordebau a'ch anghenion.

Cymhwyster

Cwrs achrededig.

Gofynion Mynediad

Mae'r cwrs hwn ar agor i bawb.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Mwy o gyrsiau gydag AOC. Cynigir gwybodaeth am sut i symud ymlaen a chynigion cyrsiau i ddatblygu sgiliau Entrepreneuriaeth/Hunangyflogaeth.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Dewch â phecyn gwnïo sylfaenol ac amrywiaeth o ffabrigau o'ch dewis. Croeso i chi ddod â 'fat quarters'. Mae croeso i chi ddod a pheiriant gwnïo i'r dosbarth os yw wedi cael prawf PAT. Cewch gyngor ar sut i baratoi eich deunyddiau ac offer ar gyfer eich prosiectau a ble i ddod o hyd i syniadau a deunyddiau.

Webfeed Date: 15/09/2026 02:04:30