Hyfforddi’r Hyfforddwr | Addysg Oedolion Cymru
Ar-lein
Saesneg

Hyfforddi’r Hyfforddwr

Cod y Cwrs: X26C0016A
B

Hyfforddi'r Hyfforddwr


Hyd: 9 wythnos
Dyddiad Dechrau: 07/10/2026
Tystysgrif am ddim
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 9 wythnos gyda gwersi am 3 awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 1:00 PM ar Ddydd Mercher
Cost: £54 (Efallai y bydd gennych hawl i gyfradd ostyngol – gweler y polisi ffioedd (yn agor mewn tab newydd)) / £216 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Cwrs ar-lein dan arweiniad tiwtor yw hwn

9 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 9 wythnos gyda gwersi am 3 awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 1:00 PM ar Ddydd Mercher

Wedi'i achredu'n llawn

Mae hwn yn gwrs achrededig sydd wedi'i ardystio gan AGORED


Trosolwg

Mae'r cwrs hwn yn paratoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu hyfforddiant llwyddiannus i oedolion. Byddwch yn dysgu egwyddorion allweddol hyfforddi, gan eich galluogi i ddeall yn well sut mae pobl yn dysgu, yn cadw ac yn trosglwyddo gwybodaeth. Mae uned sgiliau hanfodol wedi'i hymgorffori yn y cwrs i'ch helpu i ddysgu sut i gefnogi'r rhai ag anghenion sgiliau hanfodol.

Cynnwys

Mae'r cwrs hwn yn seiliedig ar y cylch hyfforddi, sy'n cwmpasu tri phrif faes: cynllunio, cyflwyno, asesu. Bydd y cwrs yn edrych ar: • Cefnogi anghenion dysgwyr • Gwahanol arddulliau dysgu • Dulliau a gweithgareddau asesu • Cynllunio sesiwn hyfforddi ac adnoddau • Rhoi adborth

Cymhwyster

Dyfarniad Lefel 2 Agored Cymru - Hyfforddi'r Hyfforddwr.

Gofynion Mynediad

Y gallu i ysgrifennu ar safon Lefel 2 - h.y. ysgrifennu mewn paragraffau.
Y gallu i gymryd rhan lawn mewn cwrs lefel 2.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Agored Cymru - Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant Lefel 3 (AET).

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Gan y cyflwynir y cwrs hwn ar-lein bydd dysgwyr angen naill ai gliniadur neu gyfrifiadur personol gyda chamera a meicroffon, WIFI a chyfeiriad e-bost.

Webfeed Date: 15/09/2026 02:04:30