Gwneud a Gweithio gyda Ffelt | Addysg Oedolion Cymru
Ystafell Ddosbarth
Saesneg

Gwneud a Gweithio gyda Ffelt

Cod y Cwrs: K26C0006A
B

Gwneud Ffelt i ddechreuwyr


Hyd: 12 wythnos
Dyddiad Dechrau: 17/09/2026
Tystysgrif am ddim
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 4 mis gyda gwersi am 4 awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 2:00 PM ar Ddydd Iau
Cost: £96 (Efallai y bydd gennych hawl i gyfradd ostyngol – gweler y polisi ffioedd (yn agor mewn tab newydd)) / £384 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: AOC|ALW, Bryn Menai, Ffordd Caergybi, Bangor, LL57 2JA

12 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 4 mis gyda gwersi am 4 awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 2:00 PM ar Ddydd Iau

Wedi'i achredu'n llawn

Mae hwn yn gwrs achrededig sydd wedi'i ardystio gan AGORED


Trosolwg

Ymunwch gyda'n cwrs ffeltio gwlyb creadigol am 12 wythnos, lle byddwch yn dylunio a chreu tri darn o waith celf ffelt unigol wedi'u hysbrydoli gan dirweddau Cymru, motiffau diwylliannol, hanes, symbolau a'ch dehongliad personol eich hun o dreftadaeth Cymru.

Cynnwys

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn archwilio gwahanol ffibrau gwlân, yn dysgu amrywiaeth o dechnegau ffeltio gwlyb, ac yn arbrofi gyda dulliau ychwanegol fel gwnïo, ffeltio nodwydd, brodwaith ac addurniadau. Erbyn diwedd y cwrs, bydd eich tri darn o waith yn ymuno gyda gwaith y grŵp cyfan i greu murlun cydweithredol mawr, a fydd wedyn yn cael ei arddangos. Nid yw'r sesiwn gyntaf yn ymarferol a bydd yn canolbwyntio ar gynllunio a chyflwyno.

Cymhwyster

Bydd cwblhau'r cwrs yn arwain at achrediad Agored Cymru.

Gofynion Mynediad

Dim gofynion mynediad.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Y cyfle i symud ymlaen i'n cwrs canolradd.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Mae'n ofynnol i ddysgwyr ddarparu eu gwlân/deunyddiau eu hunain ar ôl ychydig o wersi. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw wlân, mae croeso i chi ddod ag ef i'r sesiwn cyntaf.

Webfeed Date: 15/09/2026 02:04:30