Llythrennedd Digidol | Addysg Oedolion Cymru
Ystafell Ddosbarth
Saesneg

Llythrennedd Digidol

Cod y Cwrs: D26C0052A
I

Llythrennedd Digidol


Hyd: 2 wythnos
Dyddiad Dechrau: 18/09/2026
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 2 wythnos gyda gwersi am 2 awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 12:00 PM ar Ddydd Gwener
Cost: Am ddim (ar gyfer cymwys Dysgwyr sy’n byw yng Nghymru) / £32 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Canolfan AOC|ALW Caerdydd, 7 Iard y Cowper, Caerdydd, CF10 5NB

2 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 2 wythnos gyda gwersi am 2 awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 12:00 PM ar Ddydd Gwener

Anachrededig


Trosolwg

Bydd y cwrs yma yn rhoi'r sgiliau i chi fedru ymgysylltu gydag amrywiaeth o systemau cyfrifiadurol a gallu gweithio'n ddiogel ar-lein ac all-lein.

Cynnwys

Bydd y cwrs yma yn gwella eich sgiliau llythrennedd digidol. Bydd yn dechrau fel cwrs heb achrediad ac yn datblygu i fod yn gwrs achrededig wrth i amser a'ch hyder gynyddu. Byddwch yn dysgu llawer o agweddau ar lythrennedd digidol gan gynnwys defnyddio systemau cyfrifiadurol, chwilio'r rhyngrwyd yn ddiogel, creu dogfennau a gweithio ar-lein ac all-lein.

Cymhwyster

Ni fydd cwblhau'r cwrs yn rhoi cymhwyster i chi. Mae hwn yn gwrs ymarferol heb ei achredu. Cwrs ymarferol, heb achrediad yw hwn, ond bydd yn caniatáu i chi fynd ymlaen i unedau achrededig gyda ni.

Gofynion Mynediad

Amherthnasol.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Bydd y cwrs yn rhoi'r hyder i chi weithio gydag offer cyfrifiadurol ar sawl lefel. Yn dilyn y cwrs, byddwch yn gallu symud ymlaen i unedau Llythrennedd Digidol eraill gyda ni.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Darperir yr holl gyfrifiaduron. Nid oes angen i chi ddod ag unrhyw beth gyda chi i fynychu'r cwrs yma. Cynhelir y cwrs yn swyddfeydd Addysg Oedolion Cymru yn Iard y Cowper, Heol Dumballs, Caerdydd CF10 5NB

Webfeed Date: 12/09/2026 02:04:24