Hyder Creadigol | Addysg Oedolion Cymru
Ar-lein
Saesneg

Hyder Creadigol

Cod y Cwrs: H26C0011A
L

Datblygu Hyder a Chofnodi Celf


Hyd: 12 wythnos
Dyddiad Dechrau: 15/09/2026
Tystysgrif am ddim
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 4 mis gyda gwersi am 2 awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 12:00 PM ar Ddydd Mawrth
Cost: Am ddim (ar gyfer cymwys Dysgwyr sy’n byw yng Nghymru) / £192 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Cwrs ar-lein dan arweiniad tiwtor yw hwn

12 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 4 mis gyda gwersi am 2 awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 12:00 PM ar Ddydd Mawrth

Wedi'i achredu'n llawn

Mae hwn yn gwrs achrededig sydd wedi'i ardystio gan AGORED


Trosolwg

Ymunwch gyda ni ar-lein ar gyfer y cwrs cyfeillgar hwn i ddatblygu hunanhyder a rheoli straen ochr yn ochr â rhai gweithgareddau creadigol ymlaciol.

Cynnwys

Ar y cwrs hwn, bydd dysgwyr yn myfyrio ar sefyllfaoedd lle'r oedd eu hyder yn uchel ac yn isel, yn archwilio sut mae ymddygiad yn dylanwadu ar y ffordd y mae eraill yn eu gweld, ac yn adnabod meysydd ar gyfer gwelliant personol trwy osod nodau. Bydd y sesiwn yn seiliedig ar drafodaeth a bydd dysgwyr yn cofnodi eu meddyliau yn ysgrifenedig. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn dysgu rhai technegau cyfryngau cymysg hyfryd i greu dyddiadur celf.

Cymhwyster

Achrededig gydag uned Agored Cymru.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i ddysgwyr fod yn gyfforddus yn gweithio gyda meddalwedd Teams ar-lein. Mae hwn yn gwrs achrededig ar Lefel 1 a bydd angen i ddysgwyr deipio eu hatebion i mewn i lyfryn PDF bob wythnos a'i anfon yn ôl at y tiwtor wrth i'r cwrs fynd yn ei flaen. Bydd angen sgiliau TG a llythrennedd sylfaenol.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Symud ymlaen i gyrsiau dilyniant AOC eraill ar Hyder neu Gelf. Symud ymlaen i feysydd pwnc eraill gydag AOC.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Bydd angen i ddysgwyr gael cyfrifiadur sydd gyda meddalwedd digon diweddar i agor a theipio i mewn i ddogfennau PDF gellir ysgrifennu gyda hwy. Bydd angen llyfr braslunio neu ddyddiadur ar ddysgwyr hefyd gyda phapur sy'n ddigon trwchus i gymryd paent, ynghyd â deunyddiau celf o ddewis, gan gynnwys deunyddiau lliw fel paent acrylig neu ddyfrlliw, creonau neu basteli a deunyddiau gludwaith fel hen gylchgronau ac ati.

Webfeed Date: 15/09/2026 02:04:30