Ystafell Ddosbarth
Saesneg
Cymhorthydd Dosbarth
Cod y Cwrs: D26C0047A
I
Cyflwyniad i Gefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgol
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 3 wythnos gyda gwersi am 4½ awr yr wythnos o 9:30 AM hyd 3:00 PM ar Ddydd Llun
3 wythnos
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 3 wythnos gyda gwersi am 4½ awr yr wythnos o 9:30 AM hyd 3:00 PM ar Ddydd Llun
Wedi'i achredu'n llawn
Mae hwn yn gwrs achrededig sydd wedi'i ardystio gan AGORED
Trosolwg
Ar y cwrs Lefel 1 byddwch yn edrych ar: Natur Awtistiaeth ac Anhwylderau Sbectrwm Awtistiaeth. Yr ystod o anawsterau y gallai rhywun sydd ag awtistiaeth eu profi. Strategaethau i gefnogi rhywun sydd ag awtistiaeth.Bydd pob dysgwr sy'n cwblhau'r cwrs Lefel 1 yn llwyddiannus yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar y cwrs Cynorthwyydd Ystafell Ddosbarth Lefel 2, a fydd yn rhedeg yn syth ar ôl y cwrs Deall Awtistiaeth am 6 wythnos arall (9fed Chwefror i 23ain Mawrth). Ar y cwrs Lefel 2 byddwch yn cael gwell dealltwriaeth o: Yr ystod o fodelau cymorth dysgu a fabwysiadir mewn ysgolion. Rôl cynorthwyydd cymorth dysgu. Rheoli ymddygiad plant. Yr angen i arsylwi iechyd a diogelwch mewn ysgol. SYLWER: bydd y cwrs hwn yn rhedeg yn gyfan gwbl o 12fed Ionawr i 23ain Mawrth a bydd yn cynnwys dwy uned.
Cynnwys
A oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa fel Cynorthwyydd Cymorth yn y sector addysg? Mae Addysg Oedolion Cymru yn cynnig y cyfle i chi fynychu a chwblhau'r unedau achrededig canlynol gan Agored Cymru. Lefel 1 mewn Deall Awtistiaeth, Lefel 2 Ymwybyddiaeth o Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) a Lefel 2 Cyflwyniad i Gefnogi Addysgu a Dysgu yn yr Ysgol fel rhan o Raglen Cynorthwyydd Ystafell Ddosbarth.Cymhwyster
Agored Cymru - Lefel 1 Deall Awtistiaeth a Lefel 2 Ymwybyddiaeth o Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) a Lefel 2 Cyflwyniad i Gefnogi Addysgu a Dysgu yn yr Ysgol.Gofynion Mynediad
Y gallu i ysgrifennu ar safon Lefel 2 - h.y. ysgrifennu mewn paragraffau a'r gallu i gymryd rhan lawn mewn cwrs lefel 2.SYLWER - Drwy wneud cais ar-lein rydych yn cofrestru diddordeb mewn ymuno gyda'r cwrs hwn. Er mwyn cofrestru'n llwyddiannus ar y rhaglen, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o gymhwyster Lefel 1 neu uwch trwy ffurflen e-bost, a fydd yn cael ei hanfon at bob ymgeisydd posibl. SYLWER: Ni fyddwch yn gallu ymuno gyda'r cwrs heb ddarparu'r wybodaeth hon ymlaen llaw.