Ar-lein
Saesneg
SSIE – Paratoi ar gyfer IELTS (System Profi Iaith Saesneg Ryngwladol)
Cod y Cwrs: D26C0034A
B
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 12 sesiwn dros 6 wythnos gyda gwersi am 5 awr yr wythnos o 6:00 PM hyd 8:30 PM ar Ddydd Mawrth a Dydd Iau
6 wythnos
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 12 sesiwn dros 6 wythnos gyda gwersi am 5 awr yr wythnos o 6:00 PM hyd 8:30 PM ar Ddydd Mawrth a Dydd Iau
Anachrededig
Trosolwg
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i chi i brawf SPRIS (IELTS) Academaidd. I'r rhai sy'n gobeithio astudio mewn prifysgol yn y DU neu ar gwrs Saesneg mewn prifysgol dramor, mae'r prawf hwn yn addas ar gyfer mynediad ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Trwy weithgareddau ymarfer ar gyfer y rhannau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu byddwch yn cael cipolwg ar ofynion y prawf. Bydd y tiwtor yn eich galluogi i symud ymlaen trwy'r cwrs hwn a'ch helpu i gymryd y cam cyntaf ar eich llwybr i addysg uwch yn y DU a thramor.Cynnwys
Trosolwg cyffredinol o'r prawf SPRIS (IELTS) Academaidd. Drwy amrywiaeth o weithgareddau ymarfer SPRIS (IELTS) Academaidd, cewch eich cyflwyno i rannau'r prawf:siarad (cyfweliad, tro hir a thrafodaeth)
gwrando am hanfod a manylion
darllen am hanfod a manylion
ysgrifennu dadansoddiad
ysgrifennu traethawd byr
Cymhwyster
Nid yw'r cwrs hwn wedi'i achredu ond bydd tystysgrif cwblhau ar gael.Gofynion Mynediad
Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr SSIE (ESOL) lefel uwch sy'n bwriadu mynychu'r brifysgol ac sydd angen paratoi ar gyfer prawf SPRIS (IELTS). Caiff myfyrwyr eu hasesu ar ddechrau'r cwrs a'u cynghori ar y lefel fwyaf priodol. Bydd y tiwtor yn eich helpu i symud ymlaen drwy'r cwrs yn ôl eich anghenion unigol.Cyfleoedd i Symud Ymlaen
Gall dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch ac ymlaen i addysg bellach neu gyflogaeth. Bydd y sgiliau ymarferol yn eich paratoi ar gyfer defnyddio'r Saesneg at ddibenion academaidd er mwyn paratoi ar gyfer prifysgol neu yn y gweithle.Beth Sydd Ei Angen Arnaf?
Gan mai cwrs ar-lein yw hwn, bydd arnoch angen y canlynol:• gliniadur neu gyfrifiadur gyda chamera
• cysylltiad rhyngrwyd (bydd Office 365, MS Teams a Moodle yn cael ei ddarparu ar gyfer pob dysgwr)