Cymhorthydd Dosbarth | Addysg Oedolion Cymru
cwrs blaenorol
Ar-lein
Saesneg

Cymhorthydd Dosbarth

Cod y Cwrs: W26C0003A
I

Cyflwyniad i Gefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgol: AR-LEIN


Hyd: 9 wythnos
Dyddiad Dechrau: 14/09/2026
Darperir tystysgrif
Cost: £59 (Efallai y bydd gennych hawl i gyfradd ostyngol – gweler y polisi ffioedd (yn agor mewn tab newydd)) / £236 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Cwrs ar-lein dan arweiniad tiwtor yw hwn

9 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 9 wythnos gyda gwersi am 3½ awr yr wythnos o 9:30 AM hyd 1:00 PM ar Ddydd Llun

Wedi'i achredu'n llawn

Mae hwn yn gwrs achrededig sydd wedi'i ardystio gan AGORED


Trosolwg

Ar y cwrs Lefel 2 byddwch yn ennill gwell dealltwriaeth o: -
• Yr ystod o fodelau cymorth dysgu a fabwysiadwyd mewn ysgolion.
• Rôl cynorthwyydd cymorth dysgu.
• Pwysigrwydd gwaith tîm a chyfrinachedd mewn cyd-destun cymorth dysgu.
• Rheoli ymddygiad plant.
• Pwysigrwydd cyfle cyfartal yn yr ystafell ddosbarth.
• Yr angen i gadw at reolau iechyd a diogelwch mewn ysgol.

Cynnwys

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa fel Cynorthwyydd Cymorth yn y sector addysg? Mae Addysg Oedolion Cymru yn cynnig cyfle i chi fynychu ar gyfer Lefel 2 - Cyflwyniad i Gefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgol.

Deilliant y Cwrs

Agored Cymru - Lefel 2: Cyflwyniad i Gefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgol.

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad: Y gallu i ysgrifennu ar safon Lefel 2 - h.y. ysgrifennu mewn paragraffau ag y gallu i gymryd rhan iawn mewn cwrs lefel 2. Er mwyn cofrestru'n llwyddiannus ar y rhaglen, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o gymhwyster Lefel 1 neu uwch/canlyniadau prawf WEST.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Mae cyrsiau eraill gallech ymuno gyda nhw megis Diogelu, Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth, Hyfforddi'r Hyfforddwr a llawer mwy.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Gliniadur, Wi-Fi, Pen ysgrifennu a phapur.

Webfeed Date: 18/11/2026 01:24:22